Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn ymuno â phrifysgolion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd

Mae prosiect gwella tai yn Abertawe ar fin cychwyn mewn ymgais i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

council housing 1

Mae pedwar tŷ cyngor yn Abertawe wedi'u dewis fel prosiectau 'prawf' ar gyfer datblygu atebion ynni gwyrdd yn y dyfodol i gartrefi ledled y DU.

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â Phrifysgol Caerfaddon, y brifysgol arweiniol, mewn cydweithrediad â thair arall (Caerdydd, Caerwysg a Bryste) i brofi ôl-osod y cyfarpar ynni arloesol a gwelliannau i'r ffabrig allanol mewn tai cyngor a adeiladwyd rhwng y ddau ryfel byd yng nghymuned Townhill y ddinas.

Bydd y prosiect yn defnyddio deunyddiau bio-seiliedig newydd arloesol gyda'r nod o leihau carbon gymaint â phosib mewn dulliau adeiladu a lleihau tlodi tanwydd, gan gynnwys inswleiddio waliau allanol, inswleiddio llofftydd, drysau a ffenestri newydd, pympiau gwres, paneli solar a storfeydd batri.

Bydd mwy na £400,000, a ddarperir drwy raglenni grant a rhaglen buddsoddi cyfalaf tai y cyngor, yn cael ei fuddsoddi mewn gosod y cyfarpar ynni adnewyddadwy a'r gwelliannau ffabrig allanol yn y pedwar cartref.

Bydd y prifysgolion sy'n rhan o'r prosiect wedyn yn profi effeithiolrwydd y cyfarpar o ran arbedion cost i gartrefi a gwerth am arian.

Mae'r prosiect diweddaraf yn dilyn cynllun blaenorol yr oedd Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan ohono, lle cafodd chwe byngalo yng Nghraig-cefn-parc a oedd yn eiddo i'r cyngor eu hôl -osod gyda chyfarpar ynni adnewyddadwy tebyg i helpu i leihau biliau ynni.

Bydd cynllun ailddatblygu Townhill yn rhan o brosiect Ecosystemau Pontio Gwyrdd Trawsnewid Tai a Chartrefi ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol - y cyfeirir ato fel y Prosiect Trawsnewid Cartrefi.

Mae'r cyngor hefyd yn cynllunio datblygiad gwerth £3 miliwn a fydd yn cynnwys 13 o gartrefi newydd yng nghymuned Trefansel.

Mae cynllun Tŷ Brondeg yn rhan o raglen barhaus Rhagor o Gartrefi y cyngor sydd eisoes wedi arwain at ychwanegu mwy na 250 o dai at stoc tai cymdeithasol y cyngor ar draws y ddinas.

Mae'r adroddiad diweddaraf i'r Cabinet yn ceisio cymeradwyaeth am gyllid ychwanegol (£300,000) drwy gronfa menter Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer  y Fargen Ddinesig i helpu gyda chostau cyfarpar ynni adnewyddadwy yn natblygiad Tŷ Brondeg.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, Mae tlodi tanwydd yn bryder gwirioneddol ledled y wlad ac mae'r angen i ystyried atebion ynni adnewyddadwy yn ein tai cyngor presennol yn Abertawe yn flaenoriaeth..

"Rydym wedi cael llwyddiant yn flaenorol wrth ôl-osod y math hwn o gyfarpar mewn set o fyngalos yng ngogledd y ddinas.

"Unwaith eto rydym yn cydweithio â phrifysgolion sy'n cymryd y materion a'r technolegau hyn o ddifrif, o ran sut maent yn perfformio a'r potensial i'w cyflwyno mewn cartrefi presennol mewn ffordd cost effeithiol.

"Mae gennym gynlluniau hefyd i gynnwys cyfarpar ynni adnewyddadwy yn ein prosiect adeiladu newydd diweddaraf yn Nhrefansel.

"Caiff y cartrefi eu dylunio i'n "Safon Abertawe" arobryn a byddant yn darparu llety mawr ei angen i bobl ar ein rhestr aros am dai.