Sut y mae Abertawe'n Cofio
Safodd gymunedau ar draws y ddinas mewn distawrwydd dros y penwythnos wrth i Abertawe Gofio'r bobl a fu farw wrth amddiffyn eu gwlad.
Safodd gannoedd o bobl ger y prif senotaff ar lan y môr ddydd Sadwrn a dydd Sul i feddwl yn dawel yn ystod dwy funud o ddistawrwydd cenedlaethol ar gyfer 11 Tachwedd a Sul y Cofio yn eu tro.
Cynhaliwyd digwyddiad Abertawe'n Cofio gan Kevin Johns yn St David's Place ar 11 Tachwedd ac yn hwyrach yn y nos cynhaliodd ddigwyddiad Gŵyl y Cofio y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd yn Neuadd Brangwyn.
Roedd nifer o fusnesau, cartrefi a digwyddiadau coffa o amgylch y ddinas hefyd wedi llonyddu ar gyfer y digwyddiadau cofio blynyddol.
Roedd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Graham Thomas, Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart ac Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant, Elliott King, yn bresennol yn Senotaff Abertawe ar 11 Tachwedd. Roedd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cynghorydd Wendy Lewis a phobl bwysig eraill yn bresennol gan gynrychioli pobl Abertawe.
Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Thomas yn bresennol ar gyfer y Gwasanaeth Coffa yn y Senotaff ddoe (ddydd Sul). Roedd y Cyd-Ddirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Andrea Lewis, yn bresennol yn Senotaff Treforys ac roedd y Cynghorydd Wendy Lewis a chynghorwyr eraill yn bresennol ar gyfer digwyddiadau yn eu wardiau.
Cynhaliwyd Gorymdaith Dydd y Cofio ar Stryd Rhydychen cyn y Gwasanaeth Coffa blynyddol a drefnwyd, fel arfer, gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Eglwys y Santes Fawr gyda gwesteion gwadd yn bresennol gan gynnwys yr Arglwydd Faer, yr Arweinydd, Cyd-Ddirprwy Arweinwyr, y Cynghorydd King a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Wendy Lewis.