Grwpiau'n llunio cynllun gweithredu i fanteisio i'r eithaf ar hawliau dynol
Mae tua 100 o bobl o bob cefndir wedi dod ynghyd i helpu i gynllunio sut gall sefydliadau yn Abertawe sicrhau bod hawliau dynol wrth wraidd popeth maent yn ei wneud.
Ym mis Rhagfyr, datganwyd Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.
Y mis hwn cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu yn stadiwm Swansea.com lle daeth pobl ifanc, busnesau, elusennau a sefydliadau'r sector cyhoeddus ynghyd i gynllunio sut gallant chwarae eu rhan.
Roedd yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau a gweithdai a fydd nawr yn ffurfio rhan o gynllun gweithredu.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, Elliot King, "Roeddwn i'n falch o weld cynifer o bobl o gefndiroedd amrywiol ac o bob ystod oedran yn bresennol ac yn gweithio gyda'i gilydd fel y gallwn sicrhau ein bod yn llwyddo fel Dinas Hawliau Dynol yma yn Abertawe.
"Roedd ymdeimlad go iawn o bwrpas cyffredin ac roedd syniadau a sgyrsiau i ysgogi'r meddwl o ran sut i roi hawliau dynol ar waith yn ein gwasanaethau a'n gweithgareddau o ddydd i ddydd."