Hyfforddiant amddiffyn plant / ymwybyddiaeth diogelu - lefel 2 (amlasiantaeth)
Mae'r cwrs undydd hwn yn hanfodol (ac yn hyfforddiant sy'n orfodol mewn rhai lleoliadau) ar gyfer unrhyw un y mae ei waith yn golygu y daw i gysylltiad â phlant drwy amryw rolau.
Nod y cwrs
- Ailedrych ar y codau arfer proffesiynol.
- Ystyried beth yw cam-drin ac esgeulustod.
- Deall y gwahaniaeth rhwng y termau 'diogelu' ac 'amddiffyn plant'.
- Ystyried y gyfraith o ran plant y mae angen eu hamddiffyn.
- Pwy sy'n cam-drin plant?
- Enwi a diffinio categoriau cam-drin (Sylwi Arno).
- Gwybod sut i ymateb os bydd plentyn yn gwneud honiad.
- Gwybod sut i adrodd am unrhyw bryderon, ac i bwy i adrodd (Rhowch Wybod Amdano).
Pwy ddylai fynd?
Mae'r cwrs undydd hwn yn hanfodol (ac yn hyfforddiant sy'n orfodol mewn rhai lleoliadau) ar gyfer unrhyw un y mae ei waith yn golygu y daw i gysylltiad â phlant drwy amryw rolau.
Rhagor o wybodaeth
Ffoniwch yr Uned Datblygu a Hyfforddi Staff ar 01792 636111.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwyr |
Dydd Llun 13 Medi 2021 | 10.00am - 4.00pm | O bell drwy Microsoft Teams | Lynsley Haynes-Foster a Lisa Collins |
Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021 | |||
Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 |
Sut i gadw lle
- Gall staff gadw lle trwy 'Training Homepage' yn 'Talent Homepage' ar wasanaeth 'Employee Self Service' Oracle.
E-bostwich: social.servicestraining@abertawe.gov.uk
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 29 Gorffenaf 2021