Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddiant llywodraethwyr - disgrifiadau cwrs

Disgrifiadau o bob cwrs.

 

Cyllid a chyllidebau
Lywodraethwyr newydd (gorfodol)
Amddiffyn plant
Cynnal a chadw adeiladau
Disgyblu
Cadeiryddion newydd eu penodi (gorfodol)
Hyfforddiant i ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Diswyddiad
Presenoldeb
Gwaharddiadau a rôl y PDD
Llywodraethwyr sy'n defnyddio Hwb ar gyfer Gweinyddiaeth
Hyfforddiant rheoli perfformiad penaethiaid i lywodraethwyr
Iechyd a diogelwach
Polisi AD a recriwtio diogel
Plant sy'n derbyn gofal
Rheoli absenoldeb
Rheoli cwynion
Clercod newydd i lywodraethwyr
Cadw'n ddiogel ar-lein i lywodraethwyr
CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) yn y cwricwlwm newydd i Gymru
Deall data ysgol
Diweddariad ar APRh (Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb) yn y cwricwlwm newydd i Gymru
Gwasanaeth cerdd Abertawe
Dwyieithrwydd
Deddf ADYTA - Strategaeth ADY Abertawe a'r ymateb sy'n ofynnol gan ysgolion
Asesiad
Cwricwlwm
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hilio i lywodraethwyr

 

Cyllid a chyllidebau

Rydymyn gwerthfawrogir amser ar ymroddiad yr ydych chin eu cyfrannu felLlywodraethwyr a bydd yr hyfforddiant hwn yn ystyried y meysydd canlynol:

  • Sut mae adnoddaun cael eu dyrannu ar draws gwasanaethau addysg ac ysgolion ar hyn o bryd.
  • Agweddau a gofynion allweddol ynghylch Rheoli Ysgolion yn Lleol.
  • Sut y mae dyraniadau cyllidebau ysgol yn cael eu penderfynu.
  • Rhai egwyddorion a chyngor pwysig ynghylch gosod cyllideb a monitro.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn annog cwestiynau a chyfraniadau er mwyn sicrhau bod yr amser yn canolbwyntio ar y meysydd ar materion hynny sydd or cymorth mwyaf i Lywodraethwyr.

Lywodraethwyr newydd (gorfodol)

Mae hwn yn gwrs gorfodol ar gyfer pob llywodraethwr. Caiff llywodraethwyr nad ydynt yn mynychu'r hyfforddiant hwn o fewn blwyddyn o'u penodiad eu hatal yn awtomatig am 6 mis.

Cwrs nod:

  • Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i lywodraethwyr newydd o gyfrifoldebau llywodraethwyr, yr hyn sy'n gwneud corff llywodraethu'n effeithiol a rol llywodraethwyr o ran gwella ysgolion.
     
  • Bydd yn rhoi'r cyfle i chi weithio mewn grwpiau gyda llywodraethwyr newydd eraill ac uwch-swyddogion yr Awdurdod Lleol sy'n ymwneud a chyrff llywodraethu, a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf i'ch cefnogi yn eich rol newydd.

Amddiffyn Plant

Caiff hyfforddiant amddiffyn a diogelu plant hefyd ei gyflwyno i gyrff llywodraethu ysgolion. Cyflwynir yr hyfforddiant hwn ar ymwybyddiaeth lefel 1 yn unig ond mae hefyd yn cyflwyno cyngor a gwybodaeth ynghylch rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr o ran diogelu a hyrwyddo lles a'r hyn y bydd yr arolygwyr yn ei ddisgwyl.

Cynnal a Chadw Adeiladau

  • Pwysigrwydd cynnal a chadw amserol.
  • Pwy sy'n gyfrifol, yr ysgol neu'r awdurdod - Rhannu cyfrifoldebau.
  • Cynnal a chadw cylchol - yr hyn y mae angen ei wneud yn ddyddiol.
  • Dehongli'r arolwg cyflwr.
  • Pa gymorth ac arweiniad sydd ar gael.

Disgyblu

Mae'r cwrs hwn wedi cael eiddatblygu i archwilio'r broses ymchwiliadau disgyblu a'r technegau sy'nangenrheidiol i gyflawni hyn yn effeithiol. Nod y cwrs yw llunio cynllun ynogystal a fframwaith ar gyfer cynnal ymchwiliadau effeithiol.

Cadeiryddion newydd eu penodi (gorfodol)

Mae hwn yn gwrs gorfodol ar gyfer pob cadeiryddion newydd.


Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys.

  • rol a chyfrifoldeb cadeirydd y llywodraethwyr.
  • gweithio gyda'r pennaeth a'r clerc i'r llywodraethwyr.
  • rheoli cyfarfodydd effeithiol.
  • delio a sefyllfaoedd anodd - trwy waith grwp a thrafod.

Hyfforddiant i ddysgwyr Saesneg fel iaith ychwanegol

Bydd y sesiwn hyfforddi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i lywodraethwyr am fodel cyflwyno gwasanaethau i ddysgwyr lleiafrifoedd ethnig ac, yn fwy penodol, dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

Bydd yn archwilio'r hyn y mae'n rhaid i ysgolion ei ystyried wrth lunio arfer gorau i'r dysgwyr hyn a'u teuluoedd.

Diswyddiad

Yn addas i bob llywodraethwr yn enwedig y rhai ar y pwyllgor(au) priodol.

Dyma'r pynciau a drafodir:

  • Gweithdrefnau'r AL / ysgolion ar gyfer colli swyddi.
  • Rol y llywodraethwyr o fewn y gweithdrefnau hyn.

Presenoldeb

Esbonio rôl y Gwasanaeth Lles Addysg a sut rydym yn cefnogi ysgolion o ran presenoldeb a lles.

Gwaharddiadau a rôl y PDD

Bwriedir i'r sesiwn hyfforddiant roi dealltwriaeth i lywodraethwyr o rolau a chyfrifoldebau pob aelod o'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion (PDD) a galluogi  llywodraethwyr i ymgymryd â'r rôl.

Mae croeso i lywodraethwyr ddod, heb ystyried ble maent yn eistedd ar y pwyllgor hwn ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddwn yn cynghori llywodraethwyr i gyflawni'r hyfforddiant hwn cyn eistedd fel aelod o'r PDD.

Cynghorir llywodraethwyr ymhellach i ymgyfarwyddo â dogfen ganllaw gwaharddiadau Llywodraeth Cymru 'Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion' (cyhoeddwyd Tachwedd 2019) cyn yr hyfforddiant.

Llywodraethwyr sy'n defnyddio Hwb ar gyfer gweinyddiaeth

Llywodraethwyr sy'n defnyddio Hwb ar gyfer gweinyddiaeth - Yn y sesiwn hyfforddi hon edrychir ar yr offer sydd ar gael i'w defnyddio'n hawdd ar yr Hwb drwy'r llwyfan dysgu, a'r sgiliau digidol sydd eu hangen er mwyn i lywodraethwyr ddefnyddio'r offer hyn. Bydd ffocws hefyd ar yr offer a fydd yn galluogi llywodraethwyr i wneud tasgau gweinyddol, storio dogfennau'n ddiogel a defnyddio offer cyfathrebu'n effeithiol drwy'r llwyfan.

Hyfforddiant rheoli perfformiad penaethiaid i lywodraethwyr

  • I ddeall deddfwriaeth rheoli perfformiad a'i gweithrediad mewn perthynas a pherfformiad y pennaeth;
  • I fod y ymwybodol o'r cynllun, yr adolygiad ar cylch monitro ar gyfer y broses rheoli perfformiad;
  • I allu pennu amcanion rheoli perfformiad effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau;
  • I deimlo'n hyderus ynghylch cyfranogi'n briodol yn y broses

Iechyd a diogelwach

Dyma'r pynciau a drafodir::

  • Rolau a Chyfrifoldebau.
  • Gweithdrefnau Adrodd am Ddamweiniau ac Ymchwilio Iddynt.
  • Ymweliadau Addysgol yn yr Awyr Agored.
  • 5 pwnc llosg cyfredol iechyd a diogelwch.

Polisi AD a recriwtio diogel

Cynyddu ymwybyddiaeth o bolisiau adnoddau dynol.

Plant sy'n derbyn gofal

Bydd y sesiwn hyfforddi hon yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am PDG.
  • Cyfrifoldebau'r awdurdod lleol ac ysgolion gan gynnwys athrawon dynodedig PDG.
  • Cyfrifoldebau penodol i lywodraethwyr PDG.

Mae'r hyfforddiant hwn yn arbennig o berthnasol i'r llywodraethwr cyswllt a chyfrifoldeb dros PDG, ond mae croeso i bob llywodraethwr.

Rheoli absenoldeb

Cynyddu ymwybyddiaeth o rol y llywodraethwyr wrth ddelio ag absenoldeb mewn ysgolion.

Rheoli cwynion

Mae dyletswydd statudol ar bob ysgol i roi gweithdrefn gwynion yn ei lle ac mae'n rhaid ei chyhoeddi a sicrhau ei bod ar gael i rieni, disgyblion, staff a llywodraethwyr. Mae ysgolion yn ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pryderon a'r cwynion yn syth ac yn foddhaol drwy drafodaethau anffurfiol â'r athro dosbarth/pwnc neu aelod staff uwch yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae achlysuron lle bydd cwynion yn mynd ymhellach neu bydd angen ymdrin â hwy mewn modd mwy ffurfiol.

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar rolau a chyfrifoldebau'r pennaeth a'r corff llywodraethu wrth ymdrin â chwynion 'anffurfiol' a 'ffurfiol' gan rieni ac aelodau eraill o'r gymuned. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar arfer effeithiol yn ystod camau amrywiol y weithdrefn i sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn briodol er mwyn iddynt gael eu datrys yn foddhaol.

Clercod newydd i lywodraethwyr

Mae'n orfodol o fis Medi 2013 i gwblhau hyfforddiant llywodraethwyr.

Bydd y sesiwn hon yn trafod dyletswyddau statudol clercod newydd, rolau allweddol, dyletswyddau a chyfrifoldebau corff llywodraethu, swyddogaethau gweinyddol a rol gynghori'r clerc.

Anogir clercod i fynd i unrhyw sesiwn hyfforddiant llywodraethwyr a fyddai o fudd iddynt yn eu rol

Cadw'n ddiogel ar-lein i lywodraethwyr

Gyda'r dysgwyr yn ein hysgolion yn cael eu magu mewn cymdeithas sy'n gynyddol ddigidol, mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i ddarparu cyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar Ddinasyddiaeth Ddigidol a Chadernid Digidol, i leihau'r risgiau a ddaw law yn llaw â'r byd ar-lein.

I sicrhau y gwneir hyn yn briodol, mae'n bwysig bod holl aelodau'r gymuned ysgol yn ymwybodol o'r peryglon hyn ac yn gallu darparu cyngor a chefnogaeth. Caiff y meysydd canlynol eu trafod yn ystod y sesiwn ddigidol:

  • Cadernid digidol.
  • Tueddiadau ar-lein - y defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
  • Problemau sy'n wynebu ysgolion mewn perthynas â diogelwch ar-lein - seiberfwlio / cyfeillgarwch ar-lein / rhannu lluniau.
  • Polisïau ac arferion diogelwch ar-lein.
  • Rôl 'llywodraethwyr diogelwch ar-lein'.
  • Rhagor o gefnogaeth ac arweiniad.

CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) yn y cwricwlwm newydd i Gymru

Cyflwyniad ar y newidiadau deddfwriaethol i AG yn y CiG a goblygiadau hyn i ysgolion wrth i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith o 2022.

Deall data ysgol

Mae hwn yn gwrs gorfodol ar gyfer pob llywodraethwr. Caiff llywodraethwyr nad ydynt yn mynychu'r hyfforddiant hwn o fewn blwyddyn o'u penodiad eu hatal yn awtomatig am 6 mis.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o'r data disgyblion ac ysgolion a ddefnyddir ar hyn o bryd i olrhain a gwerthuso cynnydd disgyblion ac i wneud cymariaethau rhwng pynciau, grwpiau o ddisgyblion ac ysgolion.

Caiff y pynciau canlynol eu trafod ar y cwrs hwn:

  • Systemau casglu data a dilysiadau.
  • Data cyd-destunol, megis cyfrifiad blynyddol ysgolion.
  • Mesurau gwerth ychwanegol (cynnydd disbyglion), megis system Ymddiriedolaeth Teulu Fischer (FFT Aspire).
  • Dadansoddwyr awdurdod lleol, megis y rheiny ar gyfer y profion, cenedlaethol, canlyniadau diwedd cyfnod allweddol, canlyniadau arholiadau, presenoldeb a gwaharddiadau.
  • Pecynnau data Llywodraeth Cymru (ysgolion uwchradd yn unig).
  • Dadansoddiadau rhanbarthol gan ERW.

Diweddariad ar APRh (Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb) yn y cwricwlwm newydd i Gymru

Trosolwg o'r canllawiau a'r côd a'r goblygiadau i ysgolion a'r ddarpariaeth statudol.

Gwasanaeth cerdd Abertawe

  • 'PlayAlong' - y cynllun cerddoriaeth 'Chwarae ar y Cyd' dosbarth cyfan newydd, cyffrous a ddatblygwyd gan y gwasanaeth, er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dysgu i ganu offerynnau cerdd ledled y ddinas. Mae'r cynllun 'Chwarae ar y Cyd' yn galluogi grwpiau blwyddyn cyfan o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn ysgolion Abertawe i gael cyfle i chwarae amrywiaeth eang o offerynnau; fe'u haddysgir gan un o athrawon teithiol Uned Gerdd Abertawe (UGA).
  • Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol - yn dilyn cyhoeddi'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru ym mis Mehefin 2022, mae'r  Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wedi cymryd ei gamau cyffrous cyntaf. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn mewn addysg gerddoriaeth yn cynnig cefnogaeth o ansawdd a chyfleoedd cyffrous i bob ysgol yn Abertawe ac yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Dwyieithrwydd

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Y Cwricwlwm Cymreig (y dimensiwn Cymreig) a gwefan newydd y sir.
  • Datblygiadau cwricwlaidd newydd Llythrennedd Cymraeg.
  • Mentrau'r Siarter Iaith yn Abertawe.
  • Dwyieithrwydd yn ein hysgolion.

Deddf ADYTA - Strategaeth ADY Abertawe a'r ymateb sy'n ofynnol gan ysgolion

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar heriau'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (ADYTA), sut mae Strategaeth ADY Abertawe yn ymateb i'r heriau hynny a'r ymateb sy'n ofynnol gan Ysgolion, Sefydliadau Addysg Bellach a lleoliadau eraill.

Bydd ffocws arbennig ar y rôl a chwaraeir gan arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion.

Asesiad

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru (CiG) wedi newid ffurf asesiad mewn ysgolion. Mae'r ffocws bellach ar y cynnydd y mae disgylblion yn ei wneud. Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o'r canllawiau i fod yn ymwybodol ohonynt a rhai enghreifftiau o'r modd y mae ysgolion yn mynd ati i werthuso cynnydd y dysgwr.

Cwricwlwm

Mae'r Cwricwlwm i Gymru (CiG) yn orfodol. Bwreidir i'r sesiwn hon roi trosolwg o'r newidiadau. Dylai roi gwell dealltwriaeth i lywodraethwyr fel y gallant gefnogi ysgolion yn fwy effeithiol.

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Sesiwn a fydd yn darparu rhagarweiniad i'r GDPR a'i effaith ar ysgolion. Mae pob ysgol yn rheolwr data yn ei rhinwedd ei hun a'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol yn y bôn am sicrhau bod data pawb yn ddiogel. Bydd digon o enghreifftiau ymarferol ac offer ar gael i gynorthwyo'n hysgolion i gyd.

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hilio i lywodraethwyr

Rydym yn falch iawn o allu cynnig y cyfle hwn i lywodraethwyr Abertawe.

Bydd partneriaid y Tîm DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn hwyluso'r sesiwn hon, a fydd yn ddiddorol ac yn ysgogi'r meddwl. Mae'r sesiwn hyfforddiant hon yn hanfodol er mwyn i lywodraethwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth a chefnogi ysgolion i fod yn fannau teg i bob dysgwr.

Mae'n bwysig bod pob llywodraethwr yn deall gwrth-hiliaeth er mwyn cefnogi uwch-arweinwyr yn well i arwain hyn ar lefel strategol, gan effeithio ar newid cadarnhaol a gwella ysgolion.Bydd y sesiwn hyfforddiant hon yn rhyngweithiol ac yn bersonol, gan roi cyfle i lywodraethwyr fyfyrio ar anghenion eu hysgolion a hefyd ofyn unrhyw gwestiynau a all fod ganddynt.Bydd cyfle i drafod drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo'n berthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greuCymru Wrth-hiliol erbyn 2030, sy'n galw am ddim goddefgarwch ar gyfer hiliaeth o bob math. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'n system addysg ehangu dealltwriaeth a gwybodaeth pob disgybl am y diwylliannau amrywiol sydd wedi adeiladu ein gorffennol a'n presennol.Gweledigaeth DARPL yw sicrhau bod y rheini sy'n gweithio ym myd addysg yn datblygu'r sgiliau y mae eu hangen ac yn cyflawni ymarfer gwrth-hiliaeth sy'n cefnogi'r nod o fod yn Gymru Wrth-hiliol. Mae gan lywodraethwyr rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi a herio datblygiad y cwricwlwm ac wrth bennu amcanion cydraddoldeb fel rhan o gynllun Cydraddoldeb Strategol ysgol.

Abertawe yw'r awdurdod lleol cyntaf i gomisiynu DARPL i gyflwyno'r hyfforddiant hwn a gofynnwn i bob corff llywodraethu ymdrechu i anfon cynrychiolydd i un o'r sesiynau isod. Mae Llywodraeth Cymru o blaid penodi llywodraethwr sy'n ymgymryd â rôl hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer ei hysgol. Byddai'r hyfforddiant hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw lywodraethwyr yn y rôl hon, Cadeirydd y Llywodraethwyr neu unrhyw lywodraethwr sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Cyn y digwyddiad, gofynnir i lywodraethwyr gwblhau'r tair sesiwn yng nghyfres llywodraethwyr DARPL. Gellir dod o hyd i'r rhain yma: www.darpl.org/library/

Close Dewis iaith