Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant diogelwch bwyd

Mae'n rhaid i'r rhai sy'n trin bwyd gael goruchwyliaeth briodol a derbyn cyfarwyddyd a/neu hyfforddiant hylendid bwyd i'w galluogi i drin bwyd yn ddiogel.

Dylai'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y system rheoli diogelwch bwyd dderbyn hyfforddiant digonol hefyd.

Dylid ystyried gofynion yr hyfforddiant o ran cyd-destun natur a maint y busnes. Nid oes gofyniad cyfreithiol i fynd ar gwrs hyfforddi ffurfiol na chael cymhwyster, er bod llawer o fusnesau am i'w staff wneud hynny. Gellir cael y sgiliau angenrheidiol mewn ffyrdd eraill, megis drwy hyfforddi wrth weithio, hunan-astudio neu brofiad blaenorol perthnasol.

Rydych chi (gweithredwr y busnes bwyd) yn gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Gall Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ddarparu manylion canolfannau hyfforddi sy'n cynnal cyrsiau hylendid bwyd yn eich ardal chi. Gall y sefydliad hefyd ddarparu manylion hyfforddwyr sy'n cynnal cyrsiau mewn ieithoedd heblaw am Saesneg. Maent hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau e-ddysgu sy'n eich helpu i ddod o hyd i'r hyfforddiant gorau i chi a'ch staff.

Close Dewis iaith