Toglo gwelededd dewislen symudol

Hynt

Mae'r cerdyn Hynt yn gwneud mynediad i wasanaethau hamdden ac adloniant yn fwy hwylus i gwsmeriaid anabl.

Bydd cerdyn Hynt yn rhoi mynediad am ddim i ofalwyr i leoliadau hamdden, y celfyddydau a pherfformio yn Abertawe e.e. Theatr y Grand, Canolfannau Abertawe Actif, yr LC.

Bydd Hynt hefyd yn caniatáu mynediad am ddim i ofalwyr i leoliadau'r celfyddydau a pherfformio ar draws gweddill Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am Hynt a chyflwyno cais (Yn agor ffenestr newydd)

Lleoliadau lle gallwch ddefnyddio cerdyn Hynt yn Abertawe

  • Yr LC
  • Pwll Cenedlaethol Cymru
  • Canolfan Hamdden Pen-lan
  • Canolfan Hamdden Penyrheol
  • Canolfan Hamdden Treforys
  • Canolfan Hamdden Cefn Hengoed
  • Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt
  • Cwrs Golff Blackpill
  • Golff Gwallgof y Mwmbwls
  • Llyn Cychod Parc Singleton
  • Golff Gwallgof Parc Singleton
  • Tenis yr Elba
  • Trên Bach y Bae (trên tir)
  • Gweithgareddau allgymorth amrywiol a gynigir gan leoliadau hamdden a chwaraeon
  • Plantasia

Lleoliadau sioeau

  • Theatr y Grand*
  • Neuadd Brangwyn*
  • Digwyddiadau arbennig o gwmpas y ddinas*
  • Plantasia (digwyddiad)
  • Canolfan Dylan Thomas
  • Castell Ystumllwynarth

*Sylwer, efallai na fydd gostyngiad/tocyn am ddim ar gael ar gyfer rhai sioeau a digwyddiadau (yn enwedig lle llogir lleoliadau yn allanol) oherwydd y cwmni cynhyrchu preifat sy'n gyfrifol am osod prisiau tocynnau ac am gynnig unrhyw ostyngiadau. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Gorffenaf 2022