Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiadau cael gwared â gwrychoedd

Efallai bydd angen caniatâd arnoch i gael gwared ar wrych, yn enwedig gwrychoedd sy'n fwy nag 20 metr o hyd neu sy'n cwrdd â gwrych arall ar y naill ben a'r llall.

Dylid nodi nad effeithir ar berthi gardd.

Mae gwrychoedd a reolir yn werthfawr i fywyd gwyllt oherwydd eu bod yn cynnal amrywiaeth cyfoethod o bryfed, adar, mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid. Mewn llawer o ardaloedd tir isel, gwrychoedd yw'r cynefinoedd bywyd gwyllt mwyaf arwyddocaol sydd o hyd yn bodoli. Mae iechyd gwrychoedd yn hanfodol ar gyfer goroesiad llawer o rywogaethau cyffredin yn ogystal a'r rhai mwy prin.

Bydd planhigion brodorol megis y ddraenen ddu, y ddraenen wen, y gollen, y gwyrwialen a'r fasarnen fach yn cefnogi llawer mwy o rywogaethau na phlanhigion nad ydynt yn frodorol, megis gwyros gardd, leylandii a'r eu cynnwys, mwyaf o fywyd gwyllt y gall ei gynnal oherwydd yr amserau blodeuo a ffrwytho gwahanol. Y gwrychoedd mwyaf gwerthfawr yw'r rhai sy'n cyfuno gwrych trwchus a pherthog gyda llethr, ffos neu ymyl laswelltog.

Caniatâd

O dan Reoliadau Gwrychoedd 1997 (OS rhif 1160)

  1. Mae cael gwared a'r rhan fwyaf o wrychoedd gwledig heb ganiatad yn anghyfreithlon (ac eithrio'r rhai sy'n ffurfio ffiniau gardd).
  2. I gael caniatâd i gael gwared ar wrych, mae'n rhaid i chi ysgrifennu atom gan gyflwyno hysbysiad cael gwared ar wrych drwy'r porth cynllunio (Yn agor ffenestr newydd).
  3. Yn dilyn eich hysbysiad, os ydym yn penderfynu gwahardd cael gwared a gwrych 'pwysig', mae'n rhaid i ni roi gwybod i chi o fewn 6 wythnos.
  4. Os ydych yn cael gwared a gwrych heb ganiatad, boed hwnnw'n bwysig neu beidio, gallwch wynebu dirwy ddiderfyn. Efallai bydd angen i chi roi gwrych arall yn ei le.

Mae angen caniatad arnoch i gael gwared a gwrych os yw ar y tiroedd canlynol neu'n ymylu arnynt:

  • tir amaethyddol
  • tir comin
  • tir coedwigaeth
  • padogau
  • gwarchodfa natur leol
  • safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Nid oes angen caniatad arnoch o dan y rheoliadau hyn os:

  • ydyw yn eich gardd neu'n ffinio â'ch gardd.
  • ydych yn cael gwared ag ef i gael mynediad i:
    • naill ai rhoi gwrych arall yn lle un sydd eisoes yn bod, (y dylid ei ailblannu),
    • neu lle nad oes mynediad arall neu am gost anghymesur yn unig
  • i gael mynediad dros dro i helpu mewn argyfwng.
  • i gydymffurfio a gorchymyn iechyd planhigyn neu goedwigaeth statudol.
  • i gydymffurfio a hysbysiad statudol ar gyfer atal ymyrryd a llinellau trydan.
  • mewn cysylltiad a draeniad statudol neu waith amddiffyn rhag llifogydd i roi caniatad cynllunio ar waith (ac eithrio lle ceir achos o hawliau datblygu a ganiateir).

OND mae'n rhaid i chi wirio nad oes unrhyw gyfamodau, caniatad cynllunio neu amodau sy'n gofyn body gwrychoedd yn cael eu cadw.

Mae cael gwared a gwrych yn golygu ei ddiwreiddio a gweithredoedd eraill sy'n arwain at ddinistrio'r gwrych. Ystyrir prysgoedio, gosod a chael gwared a llwyni a chlefyd neu farw yn rheolaeth arferol.

Close Dewis iaith