Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr iaith Gymraeg yn Abertawe

Gwybodaeth ac ystadegau ar sgiliau iaith Gymraeg.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys dadansoddiad o ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Abertawe sy'n ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys data o Gyfrifiad 2021. Mae'n cyflwyno'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael a gwybodaeth am nodweddion poblogaeth yn ôl sgiliau iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe, sut mae hyn wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf ac amrywiadau yn ôl oedran ac ardal leol.

Mae'r adrannau sydd wedi'u cynnwys fel a ganlyn:

  • ystadegau allweddol Cyfrifiad (2021)
  • Gwahaniaethau yn ôl grŵp oedran
  • Amrywiadau lleol
  • Newid dros amser (2011 i 2021)
  • Newid yn ôl ardal leol
  • Newid yn ôl oedran
  • Ffynonellau ystadegau a gwybodaeth pellach.

Mae'r  ddogfen (PDF) [1MB] hefyd yn cynnwys nifer o dablau cryno a map sy'n dangos dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe fesul ward, ynghyd ag atodiadau manylach gan gynnwys data diweddaraf y Cyfrifiad ar gyfer pob un o'r 32 ward yn Abertawe.

Yn ogystal â darparu adnodd gwerthfawr i ddefnyddwyr data lleol ar y Gymraeg, bwriad y gwaith hwn yw cyfeirio a chefnogi polisïau'r Cyngor ar yr iaith a safonau'r Gymraeg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am ystadegau'r Gymraeg, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith