Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o ardaloedd chwarae a sglefrfyrddio i ddod i Abertawe

Disgwylir i bymtheng ardal chwarae newydd gael eu datblygu ar draws Abertawe dros y 12 mis nesaf a chaiff cyfleusterau sglefrfyrddio cymunedol eu gwella hefyd.

play area opening cheers

Gallai dros £3m gael ei roi o'r neilltu ar gyfer cyfleusterau awyr agored newydd i blant a phobl ifanc a fydd yn hybu chwarae i bob oed mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Dros y 18 mis diwethaf, mae'r cyngor wedi gwario tua £5m ar bron 50 o ardaloedd chwarae newydd neu wedi'u hailwampio fel rhan o'i ymrwymiad i deuluoedd sy'n adfer o'r pandemig ac sy'n ymdopi a'r argyfwng costau byw.

Mae'r cyngor wrthi'n ystyried lleoliadau'r 15 ardal chwarae newydd yn awr a disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yn yr wythnosau i ddod.

Ar ben hynny, ar 18 Mai, gofynnir i'r Cabinet wario £1.045m i wella cyfleusterau sglefrfyrddio cymunedol Abertawe.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr arian i dalu am y cyfleusterau cymunedol newydd yn dod o Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor.

Heblaw am yr hwb gwerth £3m i ardaloedd chwarae a sglefrfryddio, mae'r adroddiad i'r cyngor hefyd yn nodi £1.5m o wariant pellach o'r Gronfa Adferiad Economaidd i gefnogi costau teithio gofal cartref, gan gynnwys buddsoddiad mewn cerbydau trydan i staff dros y pum mlynedd nesaf.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mai 2023