Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas i elwa wrth i lwybr Abertawe ar gyfer IRONMAN 70.3 2023 gael ei ddatgelu

Disgwylir i fusnesau Abertawe elwa wrth i wythnos chwaraeon bwysig gael ei chynnal am yr eildro yn y ddinas.

Ironman 70.3 Swansea 2022

Mae'r rheini sy'n arbenigo mewn bwyd, diod, lletygarwch a llety mewn sefyllfa dda yn enwedig i elwa o'r busnes a gynhyrchir gan IRONMAN 70.3 Abertawe (16 Gorffennaf) a Chyfres Para Treiathlon y Byd 2023 (CPTB) Abertawe ar 15 Gorffennaf.

Amcangyfrifir bod y penwythnos yn werth tua £2.5m i'r economi leol.

Mae llwybr newydd IRONMAN 70.3 Abertawe newydd gael ei gyhoeddi, wedi'i newid o'r llynedd er mwyn ystyried adborth y cyhoedd o ddigwyddiad 2022.

Bydd yn cynnwys nofio yn SA1, rhedeg ar hyd glan môr y ddinas a beicio o'r ddinas a thrwy rhannau o ardal olygfaol Gŵyr.

Bydd rhai ffyrdd yn cael eu cau dros dro ond mae trefnwyr yn parhau i weithio gyda phobl, busnesau a sefydliadau lleol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib.

Meddai Craig Bennallack, o'r gwesty Dolphin SA1 Hotelyng nghanol y ddinas. "Rydym bron yn llawn ar gyfer y noson cyn IRONMAN 70.3 - ac rwy'n hyderus y byddwn yn llanw y noson honno."

Meddai Kate Bowen, o Morgans Hotel, "Bydd peth o'r cyffro anhygoel yn digwydd yn agos iawn i ni ac rydym yn gweithio gyda threfnwyr y digwyddiad fel y gallwn gynnig rhywbeth gwirioneddol hyfryd i athletwyr a gwylwyr."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies: "Rydym wrth ein bodd fod y digwyddiadau hyn - gan gynnwys Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru sy'n para wythnos - yn dychwelyd.

"Rydym wedi gwrando ar farn leol ac, o ganlyniad, bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal y tu allan i'r gwyliau ysgol ac mae llwybr IRONMAN 70.3 wedi'i newid yn unol ag adborth cyhoeddus.

"Rydym yn ddiolchgar i ddeiliaid tai, busnesau ac eraill am eu dealltwriaeth."

Meddai Rebecca Sutherland oIRONMAN 70.3 Abertawe, "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at benwythnos y treiathlon y mis Gorffennaf hwn.

Meddai Laura Carton o Gyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe, "Mae'r penwythnos cyfan yn addo bod yn ychydig ddiwrnodau gwych o nofio, beicio a rhedeg, gan ddechrau gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd ddydd Sadwrn."

·       Newidiadau i ffyrdd IRONMAN 70.3 a gwybodaeth arall

 

Llun:Cyffro IRONMAN 70.3 2022 Abertawe.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Ebrill 2023