Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl gyda rhaglen sy'n llawn perfformwyr enwog a ffefrynnau cyfarwydd

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â Chlwb Jazz Abertawe unwaith eto i gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, a fydd yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ar draws Abertawe o nos Iau 15 tan ddydd Llun 19 Mehefin 2023.

jazz fest 2023 filer

Mae'r rhaglen o gyngherddau'n agor gyda Hoop, band saith aelod arobryn sy'n perfformio cerddoriaeth sy'n debyg i'r cyfnod jazz ffync a roc, a fydd yn chwarae yn The Garage yn Uplands.

Cynhelir 5 cyngerdd arall yr ŵyl, y bydd angen tocynnau ar eu cyfer, yn Theatr Dylan Thomas yn yr Ardal Forol, gan ddechrau gyda Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle, a fydd yn chwarae rhai o'r caneuon gorau o ddyddiau cynnar y bandiau mawr hyd at Buddy Rich, Bob Brookmeyer a Jaco Pastorious.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Rydym wrth ein boddau i fod yn cyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe sydd, diolch i fewnbwn gan Dave Cottle a Chlwb Jazz Abertawe dros y blynyddoedd, bellach yn ddigwyddiad poblogaidd a rheolaidd yng nghalendr digwyddiadau'r ddinas.

"Mae'r ŵyl yn denu rhai o gerddorion gorau byd jazz y DU, sy'n chwarae amrywiaeth o arddulliau ar draws y genre cerddoriaeth jazz, ac rwy'n siŵr y bydd yn denu cynulleidfa leol yn ogystal â chefnogwyr jazz y tu hwnt i'r ardal."

Yn cwblhau'r rhestr berfformio ar gyfer y perfformiadau y bydd angen tocynnau ar eu cyfer yw Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin, a fydd yn cyflwyno prynhawn o Django Reinhardt, Stephane Grappelli a jazz 'manouche' gwreiddiol o'r safon orau; The Coalminers, band 7 aelod gwych a chanddynt rythm ac enaid New Orleans, ac Iain MacKenzie, un o gantorion jazz a band mawr y DU y mae galw mawr amdano, sydd ar hyn o bryd yn perfformio fel prif ganwr gwrywaidd Cerddorfa Jazz Ronnie Scott.

Mae cyfres gyngherddau'r ŵyl, a gynhelir yn Theatr Dylan Thomas, yn dod i ben gyda HHH a Mo Pleasure, a fydd yn cyflwyno noson gyffrous o gerddoriaeth Chaka Khan, Earth Wind and Fire, ac Average White Band i enwi ond ychydig.

Meddai Syr Karl Jenkins, Noddwr Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, "Mae'r ŵyl wedi bod yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers y digwyddiad agoriadol yn 2014, gan gyflwyno rhaglen llawn cerddoriaeth wych mewn lleoliadau yn Ardal Forol y ddinas ac o'i hamgylch.

"Rydw i wir yn edrych ymlaen at fis Mehefin a phenwythnos cyffrous o jazz cyfoes. Rwy'n gobeithio y bydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn y dyfodol - dewch i gefnogi a mwynhau'r penwythnos gwych hwn o gerddoriaeth fyw!"

Bydd gŵyl eleni hefyd yn cynnwys gweithdy cerddorol newydd, a gefnogir gan Gerdd Abertawe a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, ar gyfer offerynwyr jazz ifanc yn y ddinas, gyda'r cyfle i berfformio mewn cyngerdd fyw gyda Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn ogystal, bydd plant ysgol lleol o flwyddyn 3 sydd wedi bod yn defnyddio'r offerynnau pBuzz i greu cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn yn cymryd rhan mewn cyngerdd 'Canu Cyrn ar y Cyd' arbennig yn Neuadd Brangwyn, diweddglo gwych i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.

Os nad yw hynny'n ddigon o jazz i gadw'ch traed i symud, mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe hefyd yn cynnwys rhaglen i gerddwyr sy'n llawn cyngherddau llai mewn bariau a thafarndai yn yr Ardal Forol a'r ardal o'i hamgylch yn ystod y penwythnos.

Meddai David Cottle, ymgynghorwr artistig Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, "Mae'r ŵyl yn cyflwyno rhaglen jazz ardderchog ac amrywiol unwaith eto eleni. Mae cyngherddau gwych i edrych ymlaen atynt a bydd rhai o'n ffefrynnau yn dychwelyd fel rhan o'r rhaglen i gerddwyr - bydd Abertawe llawn cyffro unwaith eto wrth wrando ar gerddoriaeth jazz fyw!"

Dylai pobl sydd am gael rhagor o wybodaeth neu archebu tocynnau fynd ar-lein i www.croesobaeabertawe.com/joio/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mai 2023