Rydym yn datblygu Strategaeth Hybu'r Gymraeg newydd ar gyfer y Cyngor.
Mae'r strategaeth hon yn bwriadu bodloni'n gofynion statudol o dan ddeddfwriaeth Gymraeg, a hefyd gefnogi targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer twf cenedlaethol - miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - drwy gosod ein targedau ein hunain, y mae camau gweithredu sy'n berthnasol i Abertawe'n sail iddynt.
Hoffem gael eich help i lywio'n strategaeth - byddwn yn cynnal sesiynau ymgysylltu rhithwir i gasglu barn a helpu i'w datblygu.
Pryd:
Dydd Llun 13 Mai, 10am - 12pm - Cynhelir y sesiwn hon yn Saesneg
Dydd Gwener 17 Mai 12.30pm - 2.30pm - Cynhelir y sesiwn hon yn Gymraeg
Sut: Os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch Rhian.Millar@abertawe.gov.uk gan nodi pa sesiwn yr hoffech fynd iddi.
Os nad ydych yn gallu dod ond hoffech gyfrannu, gallwch hefyd rannu'ch barn drwy gwblhau'r arolwg byr hwn: https://online1.snapsurveys.com/Cymraeg2050