Toglo gwelededd dewislen symudol

Y diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Y Cynllun Datblygu Lleol yw'r glasbrint sy'n nodi'r cynigion cynllunio a'r cynlluniau datblygu a fydd yn helpu i lunio dyfodol y ddinas dros y degawd nesaf.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Er mwyn sicrhau bod y CDLl yn parhau'n gyfredol, mae'n rhaid i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

}Rydym nawr yn dechrau ar y CDLl Newydd ac yn ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni sy'n cynnwys yr amserlen ar gyfer paratoi a sut a phryd y gall pobl gymryd rhan drwy gydol y broses ddisodli.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y CDLlN, ymunwch â ni yn un o'n sesiynau galw heibio yn y Ganolfan Ddinesig ar 27 Mawrth neu 6 Ebrill rhwng 10am a 6.30pm.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma am sut i weld y dogfennau ymgynghori a dweud eich dweud:

https://www.abertawe.gov.uk/CDLlNcytundebcyflawni

https://www.abertawe.gov.uk/adolygiadCDLl

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023