Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant £1.5m yn rhoi hwb i addysg disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Bydd ysgolion y ddinas sy'n cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael bron £1.5m o gyllid annisgwyl diolch i grant gan Lywodraeth Cymru.

Children playing - generic from Canva

Mae uwchraddio ystafelloedd dosbarth mewn ysgolion sydd â chyfleusterau addysgu arbenigol (CAA), yn ogystal â chyfleusterau awyr agored newydd a chyfarpar gweithdai dan do ym Maes Derw a bysus mini ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol i gyd yn rhan o gynigion y bydd y Cabinet yn eu gweld yr wythnos nesaf.

Meddai Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, "Mae Cyngor Abertawe eisoes yn buddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn fel y gall disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.

Byddai mwy na £800,000 o'r grant yn cael ei roi o'r neilltu er mwyn gwella trefniadau CAAau, gan gynnwys gwelliannau, cyfleusterau a chyfarpar. Mae tua £200,000 wedi'i glustnodi ar gyfer bysus mini newydd fel rhan o gynllun peilot i wella cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion ADY.

Byddai swm o oddeutu £300,000 yn cael ei glustnodi i wella cyfleusterau ym Maes Derw lle byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ardaloedd gweithdai galwedigaethol a chyfleusterau awyr agored i gefnogi dysgu ar y safle a lles i ddisgyblion yno.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Tachwedd 2023