Cymorth hanfodol ar y gweill ar gyfer lleoliadau hamdden y ddinas
Disgwylir i leoliadau hamdden ac adloniant hanfodol sy'n cael eu defnyddio gan filoedd o breswylwyr bob dydd gael mwy o gymorth gan Gyngor Abertawe dros y misoedd nesaf.
Bydd tua £1.5m yn cael ei rannu gan Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe a chwmni rheoli Arena Abertawe, ATG, i helpu i wrthbwyso biliau ynni cynyddol.
Cytunwyd yn gynharach eleni y bydd yr arian yn dod o gronfa cymorth ynni'r cyngor sy'n werth £15m, ac mae'r Cabinet eisoes wedi cymeradwyo'r cynnig.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe fod hyn er budd miloedd o breswylwyr y mae eu hiechyd a'u lles yn dibynnu ar fynediad i gyfleusterau hamdden ar gyfer ymarfer corff a chymdeithasu bob wythnos.
Meddai, "Er bod pyllau nofio a gwasanaethau hamdden mewn mannau eraill wedi bod yn cau oherwydd costau ynni cynyddol, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau nad yw hynny'n digwydd i gyfleusterau cyngor a weithredir gan bartneriaid yn Abertawe.
"Mae pawb yn ymwybodol bod mynediad at hamdden, chwaraeon ac adloniant yn helpu i'n cadw ni'n iach ac yn rhoi hwb i'n hiechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer plant ifanc sy'n dysgu nofio, er enghraifft, ac ar gyfer pobl ifanc sy'n trin eu cyfleusterau hamdden lleol fel lle i gadw'n heini a chwrdd â ffrindiau."
Mae Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe ac ATG eisoes wedi cymryd eu camau eu hunain i leihau'r defnydd o ynni a chostau cysylltiedig. Bydd camau gweithredu pellach yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys cynlluniau i osod mwy o fesurau arbed ynni yn y dyfodol.
Cyngor Abertawe sy'n berchen ar yr LC a chanolfannau hamdden Treforys, Llandeilo Ferwallt, Pen-lan, Cefn Hengoed, Penyrheol a chyfadeilad chwaraeon yr Elba. Caiff y cyfleusterau eu rheoli gan yr ymddiriedolaeth nid er elw, Freedom Leisure ar ran y cyngor.
Yn yr un modd, rheolir Arena Abertawe ar ran y cyngor gan ATG (Ambassador Theatre Group), cwmni rheoli theatr a chanddo enw da yn rhyngwladol.
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n cael ei weithredu ar y cyd drwy bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a'r cyngor.