Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfrgell Sgeti'n dathlu can mlynedd

Heddiw mae llyfrgell boblogaidd Sgeti'n dathlu can mlynedd o fod yng nghanol ei chymuned, gan ddechrau pennod newydd o stori sydd mor gyffrous â'r llyfrau ar ei silffoedd.

sketty library centenary

Daeth rhai o'i aelodau ieuangaf a'i benthycwyr hynaf i ddymuno pen-blwydd hapus i'r adeilad hybarch sy'n parhau i ffynnu yn ystod oes y rhyngrwyd.

Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, "Pe bai brics a morter yn gallu adrodd eu straeon, byddai stori Sgeti yn un arbennig iawn.

"Sgeti oedd y llyfrgell bwrpasol gyntaf y tu allan i ganol dinas Abertawe ar y pryd. Dyluniwyd yr adeilad gan Ernest Morgan, a oedd wedi dylunio ystad Townhill ac Ysgol Mayhill ac roedd un o'i rheolwyr cyntaf yn gyn-filwr o'r Rhyfel yn erbyn y Boeriaid a oedd yn adrodd straeon o'r rhyfel, yn ogystal â llawer o straeon eraill, i'r ymwelwyr.

"Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llyfrgell Sgeti wedi parhau i fod ar agor, gan weithredu fel man casglu ar gyfer y llyfrau a achubwyd o lyfrgelloedd ac adeiladau eraill a gafodd eu bomio yn ystod y blitz ac i helpu gyda'r diffyg llyfrau yn ystod y rhyfel.

"Roedd Kingsley Amis - awdur Lucky Jim a thad i un o awduron modern gorau Prydain, Martin Amis - yn defnyddio Llyfrgell Sgeti fel ei lyfrgell leol wrth iddo weithio ym Mhrifysgol Abertawe.

"Yn fwy diweddar mae'r awdur arobryn Jo Walton wedi bod yn ymwelydd rheolaidd yma

ac ni fyddwch yn cael eich synnu i glywed eich bod chi'n gallu dod i lyfrau gan y tri awdur hyn yn Llyfrgell Sgeti heddiw.

"Ar ben-blwydd y llyfrgell yn 100 oed, hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i'r llyfrgell a'r gymuned o'i chwmpas a phob lwc iddi ar gyfer y can mlynedd nesaf o'i stori gyffrous."