Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwch sut i achub bywyd yn y dŵr

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) yn cynnig cyrsiau achub bywydau a dysgu nofio cyn haf prysur pan fydd miloedd yn draddodiadol yn heidio i'n traethau i fwynhau'r haul a nofio.

Wales National Pool

Daw'r cynnig cyn dechrau Wythnos Atal Boddi y penwythnos hwn, ymgyrch diogelwch dŵr cyn yr haf a gynhelir ar draws y DU ac a drefnir gan y Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol (RLSS)

Meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol PCCA, "Mae nofio yn ffordd wych o fwynhau'r awyr iach, cael ymarfer corff a hybu lles.

"Er bod y pwll yn gartref i nofwyr elît rhyngwladol fel Dan Jervis sy'n mynd i'r gemau Olympaidd, rydym hefyd yn lleoliad cymunedol sydd am helpu pobl i nofio ac aros yn ddiogel ar yr un pryd.

"Mae ein cyrsiau ar gael i gefnogi'r rheini sydd am wella'u sgiliau nofio ac achub bywydau yn ogystal â'r rheini sy'n meddwl am ddysgu am y tro cyntaf.

"Mae gennym gyrsiau'r RLSS i ddechreuwyr neu raglen Academi Achub Bywyd Cenedlaethol yr RLSS sydd wedi'i llunio'n benodol i blant a phobl ifanc

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau PCCA yma: Gwersi a Sesiynau Dyfrol - Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Atal Boddi yma: https://www.rlss.org.uk

Close Dewis iaith