Dathlu llwyddiannau Arglwydd Faer benywaidd cyntaf y ddinas
Mae un o brif ystafelloedd cyfarfod hanesyddol Neuadd y Ddinas Abertawe wedi'i henwi ar ôl un o gynghorwyr mwyaf nodedig y ddinas, Lilian Hopkin MBE.
Fis diwethaf, cytunodd Cynghorwyr i ailenwi Ystafell Gaerloyw yn Neuadd y Ddinas ar ôl Arglwydd Faer benywaidd cyntaf Abertawe, a ddoe dadorchuddiwyd plac yno i goffáu'r newid.
Mae Ystafell Lilian Hopkin MBE, sydd newydd ei henwi, yn cynnal llawer o brif gyfarfodydd pwyllgor y Cyngor, gan gynnwys cyfarfodydd y Cabinet, ac ymgasglodd Cynghorwyr yno eto i weld y newid.
Bu'r ddiweddar Mrs Hopkin yn gwasanaethu fel aelod ward yn Fforest-fach ac yna'r Cocyd am dros 30 mlynedd, ac roedd hefyd yn swyddog undeb llafur ymroddedig a diflino yn Undeb y Gweithwyr Dillad - undeb i fenywod yn bennaf, a ddaeth yn rhan o'r GMB yn ddiweddarach.
Mae gwasanaeth Lilian Hopkin i bobl Abertawe ymhlith y cyntaf i gael ei goffáu mewn seremoni enwi ar ôl i Gyngor Abertawe gytuno ar Bolisi Enwi newydd fis diwethaf.
Mae'r polisi'n nodi o dan ba amgylchiadau y gellir enwi adeiladau'r Cyngor, cyfleusterau a mannau cyhoeddus mewnol ac allanol i ddathlu neu i goffáu pobl leol am eu llwyddiannau eithriadol ac adlewyrchu digwyddiadau arwyddocaol yn hanes a threftadaeth Abertawe.
Gall aelodau o'r cyhoedd, grwpiau neu sefydliadau wneud enwebiadau a byddai angen cytuno ar unrhyw benderfyniad terfynol ar gynigion yng nghyfarfod y Cyngor llawn.
Fis diwethaf enwyd y parc arfordirol ger Arena Abertawe yn Barc Amy Dillwyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar ôl ymgyrchydd hawliau menywod, menyw fusnes arloesol ac awdur yn y 19eg ganrif.