Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut gallwch helpu i gadw'r ddinas yn lân yr haf hwn

Gall preswylwyr helpu i gadw'u cymunedau'n lân yr haf hwn drwy fynd allan gyda ffrindiau i glirio sbwriel o barciau, traethau a mannau gwyrdd lleol.

litter bin new style

Mae Cyngor Abertawe yn chwarae ei ran wrth sicrhau bod mwy o staff glanhau ar gael ar gyfer yr haf a chynyddu patrolau gyda'r hwyr i ddelio â mannau ar draethau ac mewn parciau lle ceir llawer o sbwriel.

Ond gall preswylwyr chwarae eu rhan hefyd drwy beidio â thaflu sbwriel yn y lle cyntaf neu drwy drefnu digwyddiadau casglu sbwriel yn y gymuned, gyda'r cyngor yn darparu'r offer y gellir ei gasglu o lyfrgelloedd lleol.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae gennym 13 o hybiau casglu sbwriel o gwmpas y ddinas, y maent yn bennaf yn ein llyfrgelloedd lle gall preswylwyr gael offer a chyngor ar sut i wneud eu rhan i helpu i gadw'u hardal leol yn lân."

"Hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr hynny sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn eu cymuned. Os nad ydych yn rhan o'r ateb eto, byddwn yn eich annog i gymryd rhan - fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun.

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda menter Caru Cymru - Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi eu rhwydwaith lleol o Hyrwyddwyr Sbwriel. Mae'n ffordd i bobl sy'n frwd dros eu cymuned ddod ynghyd a gwneud gwahaniaeth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae Caru Cymru'n dweud bod ei fenter Hyrwyddwyr Sbwriel wedi arwain at 164 o ddigwyddiadau glanhau o gwmpas Abertawe, gyda'r gwirfoddolwyr yn rhoi mwy na 3,900 o oriau i gadw'u cymunedau'n daclus.

Os ydych chi am drefnu digwyddiad casglu sbwriel yn eich ardal chi, ewch i'r ddolen hon i ddod hyd i'ch hwb casglu sbwriel i wirfoddolwyr:

https://www.abertawe.gov.uk/casglusbwriel