Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt - adnewyddu

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif a Chyngor Abertawe.

Cafodd yr achos busnes amlinellol (OBC), ei gymeradwyo gan LlC ym mis Chwefror 2019; cymeradwyodd y Cabinet y cynllun a dyfarnwyd y contract ym mis Mai 2020. Cymeradwywyd yr achos busnes llawn gan LlC ym mis Mehefin 2020.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi cynlluniau ar waith i gynnal prosiect ehangu, ailfodelu ac adnewyddu i fynd i'r afael â materion cyflwr ac addasrwydd. Bydd y rhaglen waith yn cael ei chyflwyno fesul cam fel y bo'n briodol i flaenoriaethu'r ardaloedd mwyaf anghenus.

Mae'r prosiect yn cynnwys:

  • Adnewyddu er mwyn mynd i'r afael ac elfenau cyflwr C a D ar unwaith
  • Lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd ei angen yn sylweddol
  • Ailfodelu ac ymestyn neu floc newydd i fynd i'r afael â materion addasrwydd
  • Gwelliannau i effeithlonrwydd adeiladau.

Y diweddaraf am y cynnydd - Awst 2023

Agorwyd Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn swyddogol gan y Cynghorydd David Hopkins ar 7 Gorffennaf 2023.

Trosglwyddwyd cam olaf y gwaith adnewyddu mewnol gan Kier ar 31 Mawrth 2023.

Mae cwblhau'r gwaith ailfodelu ac adnewyddu yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt wedi dod â'r adeilad i safonau ysgol yr 21ain ganrif. Cymerodd y prosiect 3 blynedd i'w gwblhau wrth i'r ysgol aros ar y safle trwy gydol y gwaith adeliadu.

Mae'r prosiect wedi darparu amrywiaeth o fannau newydd a gwell i'r ysgol, er enghraifft bloc addysgu newydd sy'n disoldli'r hen gabanau wrth gefn y safle, stiwdios drama a chelf pwrpasol a nifer o ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth.

Gall disgyblion fwynhau'r ganolfan adnoddau sydd newydd gael ei hadnewyddu ac sydd wedi'i dylunio i gefnogi dysgu annibynnol, ynghyd â neuadd a adnewyddwyd ac ardal â llwyfan.

Mae'r prosiect wedi creu mynedfa newydd i'r dderbynfa a swyddfeydd i'r uwch dîm arweinyddiaeth. Mae ardaloedd cyfadrannau'r ysgol bellach wedi symud, sydd wedi galluogi'r ysgol i gydlynu cyflwyniad o'r cwricwlwm yn fwy effeithiol.

Mae prif adeilad yr ysgol wedi buddio o dderbyn gwaith uwchraddio mecanyddol a thrydanol llawn.

Dymchwelwyd y caban a oedd ar ôl ger blaen y safle a chwblhawyd yr holl waith allanol yn dilyn symud safle caeëdig Kier.

Fel rhan o'r prosiect, gosodwyd nifer o reseli beiciau ar draws y safle, a'r gobaith yw y bydd y rain y annog aelodau staff a disgyblion i feicio i'r ysgol.

 

 

Amserlen y prosiect

Dyddiadau dros dro yw'r rhain a byddant yn cael eu cadarnhau ar bob cam o'r broses.

 

Amserlen y prosiect

Dyddiad

Carreg filltir

Cyfnod cyn-adeiladu - bellach wedi'i gwblhau

Ionawr 2018-Tachwedd 2018

Datblygu cynlluniau cysyniad ar gyfer yr ysgol i Cam 2 RIBA

Mai 2018-Gorffennaf 2018

Cwblhawyd ymgysylltu â'r disgyblion a'r staff

Tachwedd 2018-Chwefror 2019

Proses dendro i benodi contractwr

Ionawr 2019

Cwblhau a chyflwynwyd SOC/OBC ar gyfer cymeradwyaeth LlC

Mawrth 2019-Hydref 2019

Datblygu dyluniad i gam 2-4RIBA

Mawrth 2020

Cwblhau a chyflwyno'r FBC i'w gymeradwyo gan LlC

Cyfnod adeiladu

Mehefin 2020-Gorffennaf 2020

Cyfnod dymchwel

Gorffennaf 2020-Medi 2022

Ailfodelu ac adnewyddu fesul cam ar draws yr ysgol

Gorffennaf 2020-Mehefin 2021

Gosod bloc modiwlaidd ac adeiladu mynedfa newydd

Rhagfyr 2022 - Mawrth 2023

Trosglwyddo'r cam olaf i'r ysgol a chwblhau'r cam adeiladu

 

Tim y Prosiect

Mr Jeff Bird, Pennaeth

Stuart Page, Rheolwr Datblygu Achos Busnes Ysgol

Sarah Rees, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Claire Lewis-Hopkins and Lee Wyndham, Y Tu Hwnt i Frics a Morter, Buddion Cymunedol

Julian Elsey, Cydlynydd Cysylltiadau Busnes TGCh, Gwybodaeth a Newid Busnes

Darrel Barnes, Rheolwr Dylunio Pensaerniol

Wayne Ganderton, Rheolwr Prosiect Contract Peirianneg Newydd, Aecom Consultants

Robert Barnes, Uwch-syr-fëwr Meintiau

Peter Rogers, Uwch-swyddog Adeiladau, Dylunio a Rheoli


Manteision i'r Gymuned

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle y bo'n bosib, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.

Fel rhan o raglen Kickstart mae Kier wedi cyflogi labrwr ifanc o Abertawe am leoliad chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn bydd Harry yn gallu gweld yr holl gyfleoedd gwahanol o fewn y diwydiant adeiladu a fydd, gobeithio, yn ei helpu i benderfynu pa lwybr y dylai gymryd.

Cynnwys disgyblion

Bydd cynnwys pynciau STEAM (Science, Technology, English, Art and Maths) yn rhan annatod o'n prosiect. Bydd y contractwr a'r cyngor yn cydweithio gyda'i gilydd gyda'r ysgol i gefnogi cyfleoedd dysgu drwy gydol y prosiect adeiladu.

Mae Kier wedi bod yn gweithio gydag adran gelf yr ysgol i greu gwaith celf ar gyfer hysbysfyrddau'r safle, a'r thema yw Amgylchedd yr Arfordir. Trwy eiriau a delweddau mae disgyblion wedi paentio negeseuon clir yn eu gwaith celf o'r angen i warchod a chynnal amgylchedd yr arfordir.

Mae Kier hefyd wedi cefnogi ac annog yr ysgol i ffurfio grŵp bach o ddisgyblion sy'n llysgenhadon sy'n ymweld â'r safle'n rheolaidd ac, ynghyd â rheolwr safle Kier, yn cerdded yr ardaloedd sy'n cael eu hadnewyddu. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i'r disgyblion o'r holl waith ac isadeiledd sy'n cael ei osod y tu ôl i'r llenni, ac mae hyn wedyn yn cael ei fwydo'n ôl i'r ysgol gyfan trwy wasanaethau rheolaidd gan sicrhau bod pob disgybl yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.

Prosiectau cymunedol

Fel rhan o gontract Ysgol Llandeilo Ferwallt, mae Kier wedi cefnogi Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt gyda gwaith clirio a chynnal a chadw yn ei gardd natur.

Gwnaed y gwaith canlynol yn ystod gwyliau'r Pasg;

  • Cael gwared ar y sied goncrit bresennol
  • Cael gwared ar unrhyw sbwriel a rwbel o'r ardal natur
  • Atgyweirio'r ffens bresennol yn ogystal â chreu sylfaen ar gyfer ystafell ddosbarth yn yr awyr agored.

Mae'r ysgol wedi gwirioni gyda'r gwaith a wnaed ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio rhagor o ardaloedd awyr agored yn ystod tymor yr haf.

Darluniau pensaeth / cynlluniau cymeradwyr

I'w huwch-lwytho maes o law.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mawrth 2024