Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoliadau Men's Shed

Mae lleoliadau Men's Shed yn cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd, meithrin cyfeillgarwch a chael hwyl yn y gymuned leol.

Er ei fod wedi'i sefydlu i gefnogi iechyd meddwl dynion yn wreiddiol, mae siediau i fenywod a rhai cymysg bellach ar gael, sy'n dod â phobl o bob cefndir ynghyd sy'n gallu mwynhau dysgu sgiliau newydd a rhannu diddordebau cyffredin. Maent yn annog rhyngweithio cymdeithasol ac yn hyrwyddo lles cadarnhaol. 

Mae'r siediau a'r gweithgareddau a gynhelir ynddynt yn dibynnu'n llwyr ar sgiliau a diddordebau'r grŵp. 

Rhestr o leoliadau Men's Shed a beth maent yn ei gynnig

Map o leoliadau Men's Shed

Map o leoliadau Men's Shed yn Abertawe.

Canolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt

Mae'r ganolfan gymunedol hon yn gartref i gyfleuster sied gymunedol / Lle Llesol Abertawe cyfeillgar, sy'n cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau a chwrdd â phobl eraill yn y gymuned.

MAD Abertawe (Cerddoriaeth, Celf, Digidol)

Maent yn darparu man diogel, cynhwysol i bobl gael mynediad at eiriolaeth, celfyddydau creadigol, technoleg ddigidol, addysg, cymorth cyflogaeth, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar degwch a pherthyn.

Men's Shed Llansamlet

Mae croeso i unrhyw un ddod i gael paned o de neu goffi a bisgedi a sgwrs. Fel Men's Shed rydym yn gwneud pob math o waith coed a gwaith crefft.

Men's Shed Victoria Saints

Mae Men's Shed Victoria Saints yn darparu lle cynnes a chroesawgar i ddynion gymdeithasu a mwynhau sgyrsiau da.

The Old Blacksmiths - Men's Shed Clydach

Croeso cynnes i bawb. Gallwch gymryd rhan mewn gwaith coed, garddio, crefftau neu dewch am gwmni a sgwrs.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Mawrth 2025