Canolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt
Lle Llesol Abertawe - Sied Gymunedol Gateway to Gower
Ar agor bob yn ail ddydd Mercher 11.30am - 2.30pm.
Mae'r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys sgiliau gwaith coed sylfaenol, cerfio llwyau, creu printiau leino, crochenwaith a chymorth TG sylfaenol. Mae croeso i bobl weithio ar eu prosiectau a'u diddordebau eu hunain, neu gallant ddod am baned a sgwrs mewn man cynnes a chroesawgar.
Bydd posteri a thaflenni i rannu gwybodaeth, cymorth a digwyddiadau hefyd ar gael.
- Defnydd am ddim o gyfrifiaduron / ddyfeisiau
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mae lluniaeth ar gael:
- bydd bwyd poeth ar gael rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (8, 22 Ionawr; 5, 19 Chwefror; 5, 19 Mawrth)
- bydd te, coffi a bisgedi ar gael ym mhob sesiwn
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
gatewaytogowershed@gmail.com
https://www.facebook.com/people/Gateway-To-Gower-Community-Shed/61553572605058/
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau
- Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl
Cyfeiriad
Murton Green Road
Llandeilo Ferwallt
Abertawe
SA3 3AT