Llwythi anarferol
Gelwir llwythi mawr neu drwm sydd angen eu cludo yn llwythi anarferol. Os ydych yn bwriadu mynd â llwyth anarferol ar hyd y briffordd, mae angen i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw.
'Llwyth anarferol' yw cerbyd sydd ag unrhyw un o'r canlynol:
- pwysau o fwy na 44,000 cilogram
- llwyth echel o dros 10,000 cilogram ar gyfer echel sengl heb yriant, a 11,500 cilogram ar gyfer echel sengl â gyriant
- lled o fwy na 2.9 metr
- hyd o fwy na 18.65 metr
Os ydych yn symud llwyth anarferol, yna mae'n rhaid i chi hysbysu'r heddlu, yr awdurdod priffyrdd (y cyngor) a pherchnogion pontydd eraill megis Network Rail.
Gall Dinas a Sir Abertawe eich cynghori ar allu strwythurol pontydd ond nid oes ganddo wybodaeth am led ffyrdd, lleoliadau celfi stryd na strwythurau neu lystyfiant sy'n hongian dros y ffordd. Y cludwr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y llwybr yn addas ar gyfer y llwyth anarferol.
Mae'n rhaid i unrhyw gais ar gyfer gwiriad cludo llwyth anarferol ar hyd llwybr arfaethedig gynnwys yswiriant iawndal i sicrhau bod cost adfer unrhyw ddifrod i'r briffordd a achosir gan gludo'r llwyth anarferol gael ei adennill.
Gallwch gysylltu â ni am gyngor drwy ffonio Llwythi Anarferol.
Gallwch hysbysu'r holl awdurdodau am lwyth anarferol trwy ddefnyddio system gwasanaeth electronig cyflwyno llwythi anarferol (Yn agor ffenestr newydd) yr Asiantaeth Briffyrdd.
Llwythi Anarferol
- Enw
- Llwythi Anarferol
- E-bost
- abnormal.loads@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635182