Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden
Mae'r Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden y brosiect unigryw yn Abertawe, De Cymru a'r llyfrgell chwarae a hamdden gyntaf ar gyfer plant ac oedolion ag anabledd yn y DU.
Maent yn elusen gofrestredig sy'n darparu teganau a chyfarpar hamdden arbenigol trwy wasanaeth llyfrgell fenthyca. Mae'r llyfrgell ar agor i unigolion a theuluoedd yn y gymuned yn ogystal â chanolfannau, clybiau a gweithwyr proffesiynol fel athrawon, gweithwyr cefnogi, gwarchodwyr plant neu ofalwyr maeth sy'n cefnogi plant neu oedolion ag anabledd.
Am ffi flynyddol fach gall aelodau gael mynediad at dros 500 o eitemau gan gynnwys cyfarpar amlsynhwyraidd ac arbenigol. Gallwch fenthyca eitemau o'r llyfrgell am 4 wythnos ar y tro, neu am gyfnod hwy trwy wneud trefniadau ymlaen llaw. Maent y cynnig gwasanaeth casglu a dosbarthu cyfyngedig i aelodau sy'n byw yn ardal Abertawe, ond mae croeso i bawb ymuno ni waeth ble rydych chi'n byw. Bydd angen i chi ymweld â'r llyfrgell i fenthyca teganau neu gyfarpar. Maent hefyd yn cynnig sesiynau chwarae therapiwtig ar gyfer plant ac oedolion. Bydd aelodau hefyd yn elwa o gyngor ar sut i roi ymagwedd fwy chwareus ar waith.
- Enw
- Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden
- Gwe
- https://plol.org.uk/site/