Toglo gwelededd dewislen symudol

LMDB - Ysgol Gynradd Hendrefoilan

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

Diben y grant cyfalaf hwn yw cefnogi lleihau maint dosbarthiadau babanod i dan 29 o blant a chodi safonau.

Mae'r prosiect yn cynnwys estyniad 150m2 newydd i ddarparu ystafell ddosbarth ychwanegol a fydd yn lleihau maint dosbarthiadau babanod ar y cyfan, gosod toiledau newydd i ddisgyblion, toiled DGSA ac ardal cadw cotiau. Cynhelir gwaith tirlunio allanol hefyd. Mae'r cynllun gwaith hefyd yn cynnwys seilwaith mecanyddol a thrydanol i alluogi datblygu prif adeilad yr ysgol yn y dyfodol os oes angen.

Mae manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Ysgol 3-11 oed yw Ysgol Gynradd Hendrefoilan. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar addysg pob plentyn 3-11 oed sy'n mynychu'r ysgol nawr ac yn y dyfodol, gan y bydd yr ystafelloedd dosbarth newydd yn darparu amgylchedd dysgu gwell i'r rheini sy'n mynychu'r ysgol.
  • Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y staff sy'n gweithio yn yr ysgol nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â gymuned ehangach yr ysgol. Bydd y gwelliannau'n caniatáu i athrawon gael niferoedd llai o ddisgyblion yn y babanod a fydd yn arwain at roi mwy o sylw i'r plant hynny.

Y diweddaraf am y cynnydd - Tachwedd 2020

  • Mae'r ysgol (y penaethiaid ac aelodau Uwch-dîm Rheoli'r ysgol) wedi bod yn llwyr ymrwymedig ers sefydlu'r prosiect, a bydd hyn yn parhau drwy gylch oes y prosiect er mwyn sicrhau yr ystyrir barn y rhanddeiliaid yn llawn.
  • Bu oedi wrth barhau â'r prosiect ar y safle oherwydd cyfyngiadau symud COVID-19.
  • Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Mehefin 2020.
  • Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2020.

 

Amserlen

Dyddiad

Carreg filltir

Ebrill 2018Datblygu brîff y cleient
Mai 2018Cynnwys rhanddeiliaid
Mai - Gorffennaf 2018Arolygon ar y safle
Gorffennaf 2018Cymeradwyaeth grant gn Lywodraeth Cymru
Tachwedd 2018 - Ionawr 2019Y broses ceisiadau cynllunio
Chwefror - Tachwedd 2019Angen cynnal arolygon safle pellach o ganlyniad i hen byllau glo
Chwefror - Ebrill 2020Proses dendro gan gynnwys gwerthusiad
Ebrill 2020Penodi contractwr
Mehefin 2020Dechrau adeiladu
Rhagfyr 2020Cwblhau'r gwaith adeiladu

Tim y prosiect

Mrs Aimee Field, Pennaeth

Kevin Williams, Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau'r Ysgol

Jo Holdsworth, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Tony Collins, Syrfëwr Prosiectau Pensaernïol

Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael.