LMDB - Ysgol Gynradd Penyrheol
Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.
Diben y grant cyfalaf hwn yw cefnogi lleihau maint dosbarthiadau babanod i dan 29 o blant a chodi safonau.
Mae'r prosiect yn cynnwys gwaith ailfodelu mewnol i newid un o ystafelloedd dosbarth mawr 120m2 yr ysgol yn ddwy ystafell ddosbarth gyda gwaith cysylltiedig i goridor cyfagos. Mae'r prosiect yn cynnwys gosod ac uwchraddio systemau mecanyddol a thrydanol newydd yn ogystal â gosodion a ffitiadau goleuadau. Darparwyd canopi dan gaead allanol hefyd.
Mae manteision y prosiect yn cynnwys:
- Ysgol 3-11 oed yw Ysgol Gynradd Seaview. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar addysg pob plentyn 3-11 oed sy'n mynychu'r ysgol nawr ac yn y dyfodol, gan y bydd yr ardaloedd newydd wedi'u hail-lunio'n darparu amgylchedd dysgu gwell i'r rheini sy'n mynychu'r ysgol.
- Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y staff sy'n gweithio yn yr ysgol nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â chymuned ehangach yr ysgol. Bydd y gwelliannau'n caniatáu i athrawon gael niferoedd llai o ddisgyblion yn y babanod a fydd yn arwain at roi mwy o sylw i'r plant hynny.
- Gwella cyflwr presennol yr adeilad a lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd heb ei wneud yn yr ysgol yn gymedrol.
Y diweddaraf am y cynnydd - Tachwedd 2020
- Mae'r ysgol (y penaethiaid ac aelodau Uwch-dîm Rheoli'r ysgol) wedi bod yn llwyr ymrwymedig ers sefydlu'r prosiect, ac mae hyn wedi parhau drwy gylch oes y prosiect er mwyn sicrhau yr ystyrir barn y rhanddeiliaid yn llawn.
- Dechreuodd gwaith ar y safle ddydd Llun, 12 Awst 2019.
- Cwblhawyd yr ystafelloedd dosbarth wedi'u hailfodelu'n fewnol erbyn diwedd mis Awst 2019 yn barod ar gyfer y disgyblion ym mis Medi.
- Cwblhawyd yr ardal ganopi allanol dros hanner tymor mis Hydref 2019.
Dyddiad | Carreg filltir |
---|---|
Ebrill 2018 | Datblygu briff y cleient |
Mai 2018 | Cynnwys rhanddeiliaid |
Mai - Gorffennaf 2018 | Arolygon ar y safle |
Gorffennaf 2018 | Cymeradwyaeth grant gan Lywodraeth Cymru |
Mai - Mehefin 2019 | Proses dendro gan gynnwys gwerthusiad |
Gorffenaf 2019 | Penodi contractwr |
Awst 2019 | Dechrau adeiladu |
Medi 2019 | Cwblhau'r gwaith adeiladau mewnol |
Hydref 2019 | Cwblhau'r canopi allanol |
Tim y prosiect
Mrs Alison Williams, Pennaeth
Kevin Williams, Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau'r Ysgol
Jo Holdsworth, Swyddog Cefnogi Prosiectau
Gemma Thomas-Morris, Syrfëwr Prosiectau Pensaernïol
Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael.