Toglo gwelededd dewislen symudol

LMDB - Ysgol Gynradd Seaview

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

Diben y grant cyfalaf hwn yw cefnogi lleihau maint dosbarthiadau babanod i dan 29 o blant a chodi safonau.

Mae'r prosiect yn cynnwys ailfodelu ystafelloedd dosbarth presennol yr ysgol a darparu ystafell ddosbarth newydd.Mae'r prosiect yn cynnwys gosod ffenestri a drysau newydd yn lle'r rhai presennol ac uwchraddio'r systemau mecanyddol a thrydanol.

Mae manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Ysgol 3-11 oed yw Ysgol Gynradd Seaview. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar addysg pob plentyn 3-11 oed sy'n mynychu'r ysgol nawr ac yn y dyfodol, gan y bydd yr ystafelloedd dosbarth newydd wedi'u hail-lunio'n darparu amgylchedd dysgu gwell i'r rheini sy'n mynychu'r ysgol.
  • Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y staff sy'n gweithio yn yr ysgol nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â gymuned ehangach yr ysgol. Bydd y gwelliannau'n caniatáu i athrawon gael niferoedd llai o ddisgyblion yn y babanod a fydd yn arwain at roi mwy o sylw i'r plant hynny.
  • Gwella cyflwr presennol yr adeilad a lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd heb ei wneud yn yr ysgol.

Y diweddaraf am y cynnydd - Tachwedd 2020

  • Mae'r ysgol (y penaethiaid ac aelodau Uwch-dîm Rheoli'r ysgol) wedi bod yn llwyr ymrwymedig ers sefydlu'r prosiect, ac mae hyn wedi parhau drwy gylch oes y prosiect er mwyn sicrhau yr ystyrir barn y rhanddeiliaid yn llawn.
  • Dechreuodd gwaith ar y safle ddydd Llun, 19 Awst 2019.
  • Roedd oedi oherwydd cyfyngiadau symud COVID-19, a arweiniodd at oedi'r prosiect am nifer o wythnosau.
  • Cwblhawyd y prosiect o'r diwedd ym mis Mehefin 2020.
  • Mae'r holl ystafelloedd dosbarth gan gynnwys yr estyniad newydd yn gwbl weithredol i ddisgyblion sy'n dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi 2020.
Amserlen

Dyddiad

Carreg filltir

Ebrill 2018Datblygu brîff y cleient
Mai 2018Cynnwys rhanddeiliaid
Mai - Gorffennaf 2018Arolygon ar y safle
Gorffennaf 2018Cymeradwyaeth grant gan Lywodraeth Cymru
Tachwedd 2018 - Ionawr 2019Y broses ceisiadau cynllunio
Mawrth - Mehefin 2019Proses dendro gan gynnwys gwerthusiad
Gorffennaf 2019Penodi contractwr
Awst 2019Dechrau adeiladu
Awst 2020Cwblhau'r gwaith adeiladu

Tim y prosiect

Mrs Julie Dunn, Pennaeth

Kevin Williams, Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau'r Ysgol

Jo Holdsworth, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Rob Perkins, Syrfëwr Prosiectau Pensaernïol

Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael.

Close Dewis iaith