Toglo gwelededd dewislen symudol

LMDB - Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

Diben y grant cyfalaf hwn yw cefnogi lleihau maint dosbarthiadau babanod i dan 29 o blant a chodi safonau.

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, bydd y prosiect yn cynnwys estyniad newydd 100mi ddarparu ystafell ddosbarth ychwanegol er mwyn lleihau maint dosbarthiadau babanod yn gyffredinol. Darperir toiledau newydd i ddisgyblion, storfa a choridor cyswllt fel rhan o'r prosiect hwn. Cynhelir gwaith tirlunio allanol hefyd.

Mae manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Ysgol 3-11 oed yw YGG Bryniago. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar addysg pob plentyn 3-11 oed sy'n mynychu'r ysgol nawr ac yn y dyfodol, gan y bydd yr ystafelloedd dosbarth newydd yn darparu amgylchedd dysgu gwell i'r rheini sy'n mynychu'r ysgol.
  • Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y staff sy'n gweithio yn yr ysgol nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â gymuned ehangach yr ysgol. Bydd y gwelliannau'n caniatáu i athrawon gael niferoedd llai o ddisgyblion yn y babanod a fydd yn arwain at roi mwy o sylw i'r plant hynny.

Y diweddaraf am y cynnydd - Tachwedd 2020

  • Mae'r ysgol (y penaethiaid ac aelodau Uwch-dîm Rheoli'r ysgol) wedi bod yn llwyr ymrwymedig ers sefydlu'r prosiect, a bydd hyn yn parhau drwy gylch oes y prosiect er mwyn sicrhau yr ystyrir barn y rhanddeiliaid yn llawn.
  • Bu oedi i'r prosiect oherwydd cyfyngiadau symud COVID-19, wrth gynnal arolygon safle a gwaith archwilio tir angenrheidiol.
  • Cafodd y prosiect ei dendro ym mis Medi 2020.
  • Disgwylir i'r gwaith ailddechrau ar y safle ym mis Ionawr 2021.
  • Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2021.

 

Amserlen

Dyddiad

Carreg filltir

Ebrill 2018Datblygu briff y cleient
Mai 2018Cynnwys rhanddeiliaid
Mai - Gorffennaf 2018Arolygon ar y safle
Gorffennaf 2018Cymeradwyaeth grant gan Lywodraeth Cymru
Ionawr 2019Y broses ceisiadau cynllunio
Gorffennaf 2019Ail-ddylunio'r cynllun oherwydd gofynion draenio pellach
Awst - Medi 2019Cais cynllunio wedi'i ddiwygio

 

Tîm y Prosiect

Miss Nia Jones, Pennaeth

Kevin Williams, Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau'r Ysgol

Jo Holdsworth, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Gemma Thomas-Morris, Syrfëwr Prosiectau Pensaernïol

Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael.