Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe

Cynllun partneriaeth a gynhyrchwyd gan Bartneriaeth Natur Leol Abertawe (PNL) yn 2023 yw'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe (CGANLl).

Mae Cyngor Abertawe'n aelod allweddol o PNL Abertawe ac yn 2023 cymeradwyodd y cyngor y CGANLl ar gyfer Abertawe. Mae'r cynllun yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer adfer natur yn Abertawe ar ffurf 25 thema gweithredu, y bydd aelodau PNL Abertawe yn cyfrannu atynt drwy eu gwaith.

Fodd bynnag, mae CGANLl Abertawe i bawb, ac mae hefyd yn cynnwys cyngor a syniadau am yr hyn y gall teuluoedd, unigolion, ysgolion, busnesau ac eraill ei wneud i helpu natur i ffynnu yn Abertawe.

Close Dewis iaith