Gadewch i ni roi hwb i'n hamgylchedd naturiol
Mae creu dolydd yn ein gerddi cefn, tyfu bwyd i lindys a chreu blychau adar ac ystlumod ymhlith llawer o syniadau am bethau y gall pobl eu gwneud i helpu i roi hwb i amgylchedd naturiol ein dinas yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Maen nhw'n rhan o Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl) Partneriaeth Natur Leol Abertawe sy'n gofyn i bobl leol ymuno a chymryd camau hawdd i hybu pryfed, planhigion ac adar i ymsefydlu eu hunain yn ein cymunedau.
Mae'r cynllun newydd, sy'n cynnwys 2023-2030, yn amlygu sut gallwn greu lle i natur, helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chwarae ein rhan i leihau llygredd dros y blynyddoedd nesaf - a fydd yn cyfrannu'n fawr tuag at amddiffyn a chadw'r cynefinoedd naturiol a'r mannau gwyrdd y mae Abertawe'n enwog amdanynt.
Mae'n cynnwys 25 o weithredoedd allweddol i arwain grwpiau partner o fewn Partneriaeth Natur Leol Abertawe, a sefydlwyd yn 1999, ac mae'n cynnwys dros 50 o grwpiau, gan gynnwys grwpiau gwirfoddol lleol a chyrff ar draws y DU sy'n gweithredu yn Abertawe, fel y cyngor, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Mae hefyd yn darparu cymorth, syniadau a chyngor i ysgolion, busnesau a theuluoedd sy'n byw yn Abertawe ar gyfer gweithredu dros natur.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: "Mae Abertawe'n enwog ar draws y DU a'r byd am ei mannau gwyrdd naturiol ac arfordirol arbennig, sy'n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.
"Os nad oes gennych lawer o le yn eich gardd neu eich buarth cefn, gallwch chwarae eich rhan o hyd trwy osod bwyd allan i adar, neu greu blychau adar neu flychau ystlumod hyd yn oed. Mae dolenni gyda llawer o gyngor da yn y cynllun gweithredu adfer rhyngweithiol ynghyd â dolenni eraill i grwpiau a sefydliadau gyda rhagor o wybodaeth neu er mwyn i chi ymuno â nhw."
Datblygwyd y CGANLl i gynnig mewnwelediadau newydd i gyflwr amgylchedd naturiol Abertawe'n fanylach nag erioed o'r blaen. Mae hefyd yn cynnig arweiniad ar gyfer adnabod natur a chynefinoedd lleol a'r hyn a wneir i'w cefnogi a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cynllun i'w gael yma: Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe