Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleusterau toiled newydd i'r rhai hynny sy'n ymweld ag un o'r traethau gorau yn y byd

Ni fydd angen i'r rhai hynny sy'n ymweld ag un o 50 o draethau gorau'r byd aros mewn ciwiau hir i ddefnyddio'r toiledau yr haf hwn.

rhosilli new toilets

Ymgymerwyd â gwelliannau sylweddol i'r bloc toiledau cyhoeddus ar draeth Rhosili ar benrhyn Gŵyr, sy'n cynnwys lleoliad eiconig Pen Pyrod ac sy'n croesawu mwy na 750,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ei gwneud yn haws iddynt ddefnyddio'r cyfleusterau yr haf hwn.

Mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi £35,000 yn y gwaith uwchraddio ac mae hefyd wedi sicrhau grant (£132,000) drwy gronfa 'Pethau Pwysig' Llywodraeth Cymru - cynllun sy'n ceisio helpu i wella isadeiledd cyrchfannau twristiaeth yng Nghymru.

Mae'r bloc toiledau newydd, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach, wedi cael ei adnewyddu'n sylweddol. Dyblwyd nifer y ciwbiclau i fenywod ac ychwanegwyd dau giwbicl newydd i'r naillryw sydd ar gael ddydd a nos, ynghyd â thoiled hygyrch arall.

Mae'r gwaith ailddatblygu gwerth £160,000 hefyd yn cynnwys gosod goleuadau LED rhad-ar-ynni a gorsaf llenwi poteli dŵr arbennig.

Ymunodd swyddogion o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Sarah Murphy, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, â chynrychiolwyr Cyngor Abertawe a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru (15 - 19 Gorffennaf) i agor y cyfleusterau cyhoeddus newydd yn ffurfiol.

Meddai Cyril Anderson, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gymuned, "Mae Rhosili'n cael ei enwi'n aml fel un o draethau gorau'r byd. Oherwydd hyn, rydym yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

"Ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym am sicrhau bod ymwelwyr â Rhosili'n cael profiad gwych ac yn gallu mwynhau'r golygfeydd godidog. Mae hyn yn golygu sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol fel toiledau o safon ar gael, a bod digon yno i ymdopi â'r galw, yn enwedig yn ystod tymhorau prysur.

"Rwy'n falch iawn o ganlyniad terfynol y gwaith uwchraddio penodol hwn ac rwy'n hyderus y bydd ymwelwyr yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed i wella'r hyn sydd ar y safle."

Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf hefyd yn rhan o Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ehangach y Cyngor, y cytunwyd arni yn 2020 ac sydd wedi arwain at welliannau i doiledau ar draws Abertawe.

Gwariwyd dros £300,000 yn flaenorol ar uwchraddio'r 30 o flociau toiledau cyhoeddus yn Abertawe.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi creu dau gyfleuster 'Changing Places' newydd sbon yn Knab Rock a Rhosili. Ariannwyd y cyfleusterau newydd drwy'r gronfa 'Pethau Pwysig' hefyd, ac maent yn darparu ar gyfer pobl ag anghenion anabledd cymhleth, fel teclynnau codi, meinciau y gellir addasu eu taldra a chyfarpar ymolchi arbenigol.

Mae'r cyfleusterau 'Changing Places' ychwanegol hefyd yn golygu bod traethau Abertawe ymysg y traethau mwyaf hygyrch yn y DU. Mae Bae Caswell hefyd yn cynnwys toiledau hygyrch arbenigol.

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Mae angen y cyhoedd i ddefnyddio toiledau yn y ddinas yn angen sylfaenol a hollbwysig. Rydym yn cydnabod hyn ac rydym wedi datblygu ymagwedd strategol at sicrhau bod ein holl doiledau wedi cael eu huwchraddio a'u gwella.

Mae rhestr a map rhyngweithiol o fwy na 30 o doiledau cyhoeddus o gwmpas Abertawe ar gael yma: www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Gorffenaf 2024