Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Graham Thomas yn dod yn Arglwydd Faer

Mae dau o'r cynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth wedi dod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer yn ystod seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas yn Abertawe.

lord mayor graham thomas

Bydd y Cynghorydd Graham Thomas yn olynu'r Cynghorydd Mike Day i ddod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2023/24 a'i ddirprwy fydd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams.

Mae'r Cyng. Thomas, sydd wedi bod yn aelod ward ar gyfer Cwmbwrla ers 1999, wedi dechrau ei swydd yn dilyn seremoni urddo yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas.

Fel Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Thomas rôl ddinesig a seremonïol bwysig fel llysgennad swyddogol ein dinas. Bydd hefyd yn ymwneud â chodi arian er sawl achos da lleol.

Meddai'r Cyng. Thomas, "Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel eu Harglwydd Faer yn y flwyddyn sydd i ddod."

"Dwi'n edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon rydym yn meddwl y byd ohoni, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn i'n cymunedau."

Fel rhan o'i flwyddyn yn y swydd, mae'r Arglwydd Faer yn aml yn dewis elusennau i'w cefnogi trwy gynnal digwyddiadau codi arian. Eleni, mae'r Cyng. Thomas wedi dewis Friends of the Young Disabled a Crisis Skyline.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mai 2023