Cynghorydd hir-wasanaeth yn dod yn Arglwydd Faer
Mae dau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe wedi dod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer.Bydd y Cynghorydd Mike Day yn olynu'r Cynghorydd Mary Jones i ddod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2022/23 a'i ddirprwy fydd y Cynghorydd Graham Thomas.
Cafodd y Cynghorydd Day, sydd wedi bod yn aelod ward dros Sgeti ers 23 mlynedd, ei urddo mewn Cyngor Seremonïol a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor heddiw (20 Mai).
Fel Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Day rôl ddinesig a seremonïol bwysig fel llysgennad swyddogol ein dinas. Bydd hefyd yn ymwneud â chodi arian at achosion da lleol, ac mae wedi dewis Canolfan Maggie, Abertawe a Zac's Place fel elusennau'r Arglwydd Faer.
Cafodd gwraig y Cynghorydd Day, Chris, ei geni a'i magu yn Mayhill a West Cross, a hi fydd yr Arglwydd Faeres am y flwyddyn.
Meddai'r Cynghorydd Day, "Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth fy enwebu'n Arglwydd Faer.
""Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel eu Harglwydd Faer.
"Mae fy ngwraig a minnau eisoes yn edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon rydym yn meddwl y byd ohoni, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn i'n cymunedau."
Mae cefndir gwaith y Cynghorydd Day mewn addysg a busnes. Bu'n ddarlithydd busnes yn Sefydliad Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach) ac ef oedd Deon cyntaf Ysgol Fusnes Abertawe.
Yn 2003 ymunodd â Phrifysgol Abertawe gan gysylltu busnesau digidol ac ymchwilwyr prifysgol, ac yn ddiweddarach yn cefnogi busnesau newydd ym maes gwyddorau bywyd. Yn fuan ar ôl iddo 'ymddeol' yn 2013, sefydlodd is-gwmni o sefydliad addysg Tsieineaidd yn y DU a sefydlodd elusen, gan gychwyn cystadleuaeth fenter ar gyfer timau o fyfyrwyr o'r DU a Tsieina.
Etholwyd y Cynghorydd Day i ward Sgeti am y tro cyntaf ym 1999 ac mae wedi gwasanaethu yno ers hynny. Bu'n Aelod Cabinet Addysg y cyngor am fwy na saith mlynedd rhwng 2004 a 2012. Mae'n parhau i wasanaethu ysgolion lleol ar gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Sgeti a'r Olchfa a bu ar Fwrdd Coleg Gŵyr Abertawe tan y llynedd.
Mae'r Cynghorydd Day wedi gwasanaethu'r gymuned ar dîm arweinyddiaeth Eglwys Parklands ers dros 30 mlynedd, ac mae'n gefnogwr brwd o Fanc Bwyd Sgeti ym Mharc Sgeti ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli'r Ganolfan Gymunedol. Mae ei weithgareddau hamdden yn cynnwys cerdded, mwynhau amgylchedd naturiol gwych yr ardal ac, fel deiliad tocyn tymor, gwylio'r Elyrch.