Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu Bae'r Gorllewin

Mae timau mabwysiadau o gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu mwy a gwell.

Western Bay Adoption logo
Ffurfiwyd ein Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin newydd yn ddiweddar, gyda'r nod o wella gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n mabwysiadu ac ar gyfer y plant sy'n dymuno cael eu mabwysiadu.

Yr hyn yr ydym yn amcanu ato yw bod taith plentyn tuag at gael ei fabwysiadu mor ddidrafferth ac mor fyr â phosibl, gan ganolbwyntio ar ddod o hyd i gartrefi am byth i'r plant yn ardal Bae'r Gorllewin a thu hwnt.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Y gwasanaeth mabwysiadu sy'n gyfrifol am recriwtio, hyfforddi ac asesu darpar fabwysiadwyr ac am ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sydd angen cael eu mabwysiadu.

Yn ogystal, rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gyfer y canlynol: 

  • Unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu;
  • Rhieni sydd eisoes wedi mabwysiadu / wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu;
  • Plant wedi eu mabwysiadu - gan gynnwys y rhai sydd yn oedolion erbyn hyn;
  • Rhieni/gofalwyr plant o'r fath; a
  • Theuluoedd a pherthnasau biolegol, gan gynnwys cwnsela.

Cyfle i chi

Cyn belled â'ch bod dros 21, yn byw yn y DU, ac nad oes gennych unrhyw rybuddion na chollfarnau yn ymwneud â phlant yn eich erbyn, a bod gennych le yn eich cartref, mae'n bosibl eich bod yn addas i fabwysiadu.  

Teulu sy'n bwysig

Mae gennym amrywiaeth o blant o bob oed sy'n aros i gael eu mabwysiadu. Mae hyn yn cynnwys plant sydd angen cael eu lleoli ar eu pennau eu hunain neu gyda brodyr neu chwiorydd, a rhai a allai fod â phroblemau ychwanegol neu beidio.

Mae ansawdd y gwasanaeth yn allweddol

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid, gan ddarparu proses mwy cadarn a phrydlon ar gyfer y rhai sy'n mabwysiadu ac ymgysylltu â nhw yn barhaus.

Y broses o fabwysiadu

Mae Bae'r Gorllewin yn ei gyfanrwydd yn falch o'r enw da sydd ganddo ynglŷn ag asesu'r rhan fwyaf o ddarpar fabwysiadwyr a bod yn barod i fynd i gyfarfod panel o fewn pump i saith mis.

Pan fyddwch wedi gwneud y penderfyniad pwysig i fabwysiadu, a fydd yn newid eich bywyd, mae'n ddealladwy y byddwch yn dymuno i'r broses fod mor gyflym â phosibl. Mae aros am rywbeth y mae arnoch wir ei eisiau yn brofiad anodd a rhwystredig.  Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ruthro. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod mabwysiadu yn addas ar eich cyfer chi, a'n bod ni'n paru plant yn gywir gyda theuluoedd addas, sy'n hynod o bwysig.

Gallwch ddibynnu arnom ni

Er bod mabwysiadu yn brofiad gwerth chweil, gall hefyd fod yn anodd ar brydiau - dydi o ddim yn fêl i gyd. Dyna pam mae'n bwysig ein bod yn darparu aelodau profiadol o staff i arwain a chynorthwyo mabwysiadwyr drwy'r broses mabwysiadu. Mae profiad yn dod â gwell dealltwriaeth yn ei sgil o'r gwahanol emosiynau a brofir gan y mabwysiadwyr ar wahanol adegau, a gellir wedyn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w helpu trwy'r cyfnod anodd hwn. Gallwch fod yn sicr y byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.

Darganfod y pleser o fod yn rhiant

Mae llawer o blant sydd angen teuluoedd parhaol, neu 'am byth'. Byddai'n bosibl i fwy o blant gael eu mabwysiadau pe byddai'r teuluoedd iawn ar gael.

Os ydych chi'n ystyried mabwysiadu plentyn, gallwn gynnig cyngor, arweiniad a chymorth i chi. Rydym yn deall bod mabwysiadu yn benderfyniad mawr i unrhyw un ei wneud, a dyma pam mae gan bob aelod o'n tîm y profiad i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.  

Hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â mabwysiadu? Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin bob amser yn barod i helpu a byddem wrth ein boddau yn clywed oddi wrthych.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Awst 2021