Ysgolion i elwa o gronfa cynnal a chadw gwerth £8m
Ysgolion fydd yn elwa o fuddsoddiad sy'n werth bron £8m gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru mewn gwelliannau cynnal a chadw ac adeiladu yn y ddinas yn ystod y flwyddyn sy'n dod.
Gofynnir i Gabinet y cyngor gymeradwyo'r rhaglen waith bwysig pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf.
Bydd gwaith yn cael ei wneud mewn pedair ar hugain o ysgolion i amnewid neu atgyweirio toeau, gwella toiledau ac uwchraddio systemau trydan ynghyd â gwelliannau eraill.
Buddsoddir hefyd mewn adeiladau eraill sy'n eiddo i'r cyngor gan gynnwys Amlosgfa Treforys, Neuadd y Ddinas ac Amgueddfa Abertawe.
Clustnodwyd £100,000 ychwanegol ar gyfer strategaeth toiledau'r cyngor i gynnal a chadw a gwella rhwydwaith toiledau cyhoeddus y cyngor.
Mae arian hefyd i gynnal adeiladau rhestredig gan gynnwys cofebion rhyfel Abertawe y mae'r cyngor wedi addo'u cynnal.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, rydym unwaith eto'n buddsoddi symiau sylweddol eleni ar welliannau cynnal a chadw hanfodol ar gyfer ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus.
"Mae ein gwariant ar y gyllideb cynnal a chadw cyfalaf yn dangos sut y mae blaenoriaethau'r cyngor yn cyd-fynd â blaenoriaethau pobl Abertawe ac, ar yr un pryd, yn helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o welliannau cynnal a chadw y mae eu hangen ar ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus."