Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut ydych chi'n gwneud twyn tywod?

Diolch i rai cynhwysion arbennig, ychydig o ddyfeisgarwch a'r glannau tywodlyd gorau yng Nghymru, mae Cyngor Abertawe yn adeiladu twyni tywod newydd sy'n llesol i'r amgylchedd ym Mae Abertawe.

sand dunes swansea bay

Bydd y fenter gan dîm cadwraeth natur y cyngor hefyd yn helpu i fynd i'r afael â faint o dywod sy'n cyrraedd prom enwog glan môr y ddinas ac Oystermouth Road.

Bydd hefyd yn helpu i leihau faint o weithiau y mae'n rhaid i'r timau priffyrdd symud tunelli o dywod o'r ffordd a'r llwybrau troed.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ni allwn rwystro natur rhag cael ei ffordd ei hun a chwythu tywod oddi ar y traeth ac ar y prom a'r ffyrdd, a bydd yn rhaid i ni barhau i glirio'r ffordd o bryd i'w gilydd.

"Ond diolch i rai syniadau natur dyfeisgar ac sy'n llesol i'r amgylchedd gan ein tîm cadwraeth, mae twyni tywod newydd yn cael eu creu ar y draethlin gyferbyn â'r rec i helpu i fynd i'r afael â'r broblem.

Daeth y cam cyntaf ym mis Chwefror pan ddechreuodd y tîm y gwaith o osod boncyffion ar y traeth a oedd wedi cael eu chwythu draw o fannau eraill yn Abertawe yn ystod stormydd.

Yr ail gam oedd ychwanegu sgwariau o ffensys pren naturiol gerllaw.

Y trydydd cam oedd gadael i natur wneud ei gwaith drwy ganiatáu i dywod a chwythwyd gan y gwynt gael ei ddal gan y rhwystrau, tywod a fyddai fel arall wedi glanio ychydig lathenni ymhellach ymlaen ger y prom neu'r ffordd.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae faint o dywod sydd wedi cronni yn y ddau le wedi cynyddu, gyda'r moresg traddodiadol sy'n aml yn gysylltiedig â thwyni tywod hefyd i'w weld yn yr olygfa glan môr.

 

 

Close Dewis iaith