MALlC 2019
Gwybodaeth o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC 2019).
Cyhoeddwyd MALlC 2019 gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 27 Tachwedd 2019. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth fanwl o'r mynegai, gan gynnwys y canlyniadau llawn ar gyfer ardaloedd lleol yn Abertawe ac arweiniad ar y data.
Mae MALlC yn defnyddio daearyddiaeth 'Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is' (ACEHI) y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel ei uned adrodd, sy'n rhannu Cymru yn 1,909 ardal ddaearyddol wahanol â phoblogaeth o 1,600 ar gyfartaledd. Mae 148 ACEHI yn Abertawe, y mae'r rhan fwyaf ohonynt o fewn 36 adran etholiadol neu ward Abertawe.
Mae MALlC yn cynnwys wyth parth (neu fath) ar wahân o amddifadedd: incwm; cyflogaeth; iechyd; addysg; mynediad i wasanaethau; tai; diogelwch cymunedol ac amgylchedd ffisegol. Mae pob parth yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddangosyddion.
Ceir crynodeb o Fynegai 2019, a'r canlyniadau allweddol ar gyfer Abertawe, mewn nodyn briffio ar y dudalen hon: MALlC 2019 Abertawe (PDF) [881KB]. Darperir rhestr o'r dangosyddion ar gyfer pob parth hefyd: MALlC 2019 dangosyddion (PDF) [471KB].
Mae cyfres o broffiliau ardal leol MALlC hefyd ar gael ar y dudalen hon, sy'n manylu ar safleoedd ACEHI (ar gyfer y mynegai cyffredinol a'r parthau unigol) ym mhob un o wardiau (bryd hynny).
Yn MALlC 2019, mae 17 (11.5%) o 148 ACEHI Abertawe yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru (sy'n debyg i'r gyfran gyffredinol yn 2014). Rhestrir y rhain isod (safle Cymru, 1-191 mewn cromfachau):
- Townhill 2 (16)
- Townhill 1 (18)
- Penderi 3 (22)
- Castell 1 (23)
- Penderi 1 (31)
- Townhill 3 (32)
- Castell 2 Gogledd (36)
- Mynydd-bach 1 (37)
- Townhill 5 (41)
- Penderi 4 (48)
- Townhill 6 (58)
- Bôn-y-maen 1 (81)
- Treforys 5 (95)
- Penderi 2 (147)
- Treforys 7 (154)
- Penderi 6 (157)
- Llansamlet 8 (179).
Hefyd ar gael ar y dudalen hon y mae tabl crynhoi o MALlC a safleoedd parth ar gyfer 148 ACEHI Abertawe a ffeiliau'n cynnwys safleoedd llawn ACEHI yng Nghymru ac Abertawe.
MALlC 2019 Safle ACEHI Abertawe (PDF) [290KB]
MALlC 2019 Cymru (Excel doc) [488KB]
MALlC 2019 Abertawe (Excel doc) [115KB]
Mae data dangosyddion MALlC sylfaenol, sy'n cael ei gyfuno i greu safleoedd parth a chyffredinol y mynegai, hefyd wedi'i gyhoeddi gan LlC. Mae'r data dangosyddion (MALlC 2019) diweddaraf ar gyfer ACEHI ac ardaloedd lleol eraill yn Abertawe ar gael ar y dudalen hon.
Mae safleoedd MALlC 2014 (a chynharach) ar gael ar gais. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio na ddylid cymharu sgorau amddifadedd Mynegai 2019 yn uniongyrchol â'r rhai cynharach, oherwydd rhesymau methodolegol gan gynnwys newidiadau sylweddol ym mharthau a dangosyddion y mynegai dros amser.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu ddata o'r MALlC, cysylltwch â ni.
Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.