Toglo gwelededd dewislen symudol

Map y Tîm Gorchmynion Cadw Coed

Map y Tîm Gorchmynion Cadw Coed - dod o hyd i goed a warchodir yn Abertawe.

Coeden unigol (dot coch): pob coeden wedi'i nodi yn ôl rhywogaeth.

Grwpiau (polygon porffor): dwy neu fwy o goed wedi'u nodi yn ôl rhywogaeth.

Ardal (polygon oren): Yn gyffredinol yr holl goed a oedd ar y safle ar adeg cyflwyno'r Gorchymyn Cadw Coed. Gall hyn fod yn gyfyngedig i rywogaeth benodol.

Coetir (polygon gwyrdd): Holl goed, coed ifanc ac eginblanhigion y rhywogaethau coed sy'n bresennol, p'un a oeddent yn bresennol ar adeg cyflwyno'r Gorchymyn Cadw Coed neu os ydynt wedi tyfu ers hynny.

Ardal Gadwraeth (polygon glas): Mae'r holl goed a chanddynt foncyff dros 75mm mewn diamedr pan gânt eu mesur, 1.5 oddi ar lefel y tir, wedi'u diogelu.

Gwnaed pob ymdrech i gadw'r mapiau hyn yn hollol gywir a chyfoes, ond nid ydynt yn gynlluniau cyfreithiol at ddibenion penderfynu pa goed sy'n berthnasol i'r Gorchmynion Cadw Coed. Efallai na chaiff coed a blannwyd cyn datblygu ardal eu dangos yn eu hunion leoliad; os yw coeden a ddiogelir yn cael ei ddangos mewn gardd gyfagos, gall fod ar ochr anghywir y ffin newydd.

Gwneir gorchmynion newydd yn aml gan y Cyngor ac felly fe'ch cynghorir bob amser i wirio gyda ni cyn gwneud unrhyw waith i goeden.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Ionawr 2025