Mae hwyl gŵyl y banc ar y ffordd
Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn, diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.
Mae llawer o'r gweithgareddau am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.
Gall y rheini sy'n dwlu ar gerddoriaeth ddarganfod mwy am Dylan Thomas ac efallai ddysgu dros eu hunain pam mae'r gantores enwog, Taylor Swift yn hoff ohono. Gallant wrando ar gerddoriaeth fyw a chael hwyl mewn lleoliadau a weithredir gan y cyngor, o olff gwallgof yng Ngerdd Southend yn y Mwmbwls i'n hamgueddfa yng nghanol y ddinas.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i bobl ar draws y ddinas a'r sir gael amser gwych y penwythnos hwn.
"Mae'r atyniadau rydym yn eu rhedeg a'u rheoli'n amrywio o draethau tywodlyd, eang i leoliadau diwylliannol o safon, ac o atyniadau awyr agored poblogaidd tu hwnt fel Trên Bach Bae Abertawe a llyn cychod hardd Parc Singleton.
"Maent yn rhan o'n hymrwymiad cyffredinol i bobl Abertawe i'w cefnogi drwy'r argyfwng costau byw gydag atyniadau fforddiadwy neu am ddim."
Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com; www.abertawe.gov.uk/gwyliaurbanc