Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithdy ymysg saith grŵp i dderbyn cyllid Men's Sheds

Mae saith prosiect sy'n gwella iechyd a lles trwy gyfeillgarwch a gweithgareddau wedi rhannu cyllid gwerth £25,000 gan Gyngor Abertawe.

men shed money

Darparwyd y grantiau i grwpiau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli er mwyn cefnogi ehangu Men's Sheds yn y ddinas i helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Bydd Gweithdy Cymunedol Abertawe ar y Stryd Fawr yn defnyddio'i grant i brynu stôf goed fel y gall ymwelwyr ddod i'w Men's Shed presennol ym mhob mis o'r flwyddyn.

Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn gosod olwynion crochenwaith i gynnig cyfleoedd newydd i ddatblygu sgiliau, torrwr finyl i gynhyrchu incwm trwy werthu planwyr gyda logos cwsmeriaid arnynt a chwythwr tywod i wella'r gweithdai gwydr a gynigir.

Meddai'r ymddiriedolwr, John O'Brien, "Sefydlom Men's Sheds tua phedair blynedd yn ôl ar gyfer dynion a menywod a oedd am ddatblygu sgiliau DIY, coedwriaeth a hobïau eraill, ac roeddent yn cael dysgu sgiliau newydd a rhannu eu sgiliau yn ogystal â helpu prosiectau cymunedol.

"Gwnaed gwaith adnewyddu cynyddol i'n mangreoedd gyda stiwdios newydd wedi'u hychwanegu ar gyfer gweithdai gwydr lliw a chrochenwaith ac rydym yn ddiolchgar i Gyngor Abertawe am y gefnogaeth a fydd yn ein helpu i ehangu ein cynnig hyd yn oed ymhellach. Bydd croeso mawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno neu wirfoddoli."

Mae prosiectau eraill sy'n bodoli eisoes sydd wedi sicrhau cyllid yn rownd grantiau eleni yn cynnwys Action Shack ym Trefansel, yr Eagle's Nest yng Nghoed Cwm Penllergaer, Summit Good yn Nynfant, The Old Blacksmiths yng Nghlydach a Chanolfan Les Abertawe ar Walter Road.

Mae'r Men's Shed sy'n dod i'r amlwg yng Nghlwb Criced Ynystawe hefyd wedi derbyn grant i adeiladu ar y gwaith y mae wedi'i wneud i ddarparu lle i bobl gwrdd a sgwrsio yn ystod y pandemig trwy ehangu i gynnig garddio, gwaith coed a llawer mwy.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, y Cyng. Alyson Pugh, "Mae Men's Sheds yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol trwy ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sy'n bodoli yn ein cymunedau.

"Dyma'r drydedd flwyddyn i'r cyngor allu darparu cefnogaeth uniongyrchol sylweddol drwy ein tîm Trechu Tlodi i'r prosiectau gwych hyn.

"Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o'r grwpiau hyn yn Abertawe i weld yr effaith drawiadol maent yn eu cael ar y rheini sy'n rhan ohonynt ac roeddwn wrth fy modd yn dal i fyny gyda'r tîm yng Ngweithdy Cymunedol Abertawe sy'n gwneud gwaith arbennig o dda."