Toglo gwelededd dewislen symudol

Fandaliaid sy'n dwyn cymhorthion diogelwch dŵr yn rhoi bywydau mewn perygl yr haf hwn

Mae fandaliaid y glannau'n rhoi bywydau mewn perygl yn rheolaidd ar ôl i dros 70 o gymhorthion achub bywyd gael eu dwyn o'r Marina ac ardal yr afon Tawe mewn 7 mis yn unig.

Swansea Marina

Mae tîm diogelwch dŵr Cyngor Abertawe'n archwilio'r safleoedd bob pythefnos ac maent yn canmol preswylwyr lleol sy'n adrodd am y lladradau'n rheolaidd.

Ond mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arwain at gymhorthion yn cael eu dwyn neu eu taflu'n ddiangen yn y dŵr, gan roi pobl eraill mewn perygl. Mae tîm diogelwch dŵr y cyngor wedi gorfod gosod cyfarpar newydd yn lle'r hen gyfarpar 76 gwaith eleni hyd yn hyn.

Mae Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, yn annog preswylwyr i barhau i adrodd am ddigwyddiadau ac unrhyw un sy'n cael ei weld yn ymyrryd â'r cymhorthion i'r heddlu.

Meddai, "Mae'n drosedd i ymyrryd â chymhorthion achub bywyd ac rydym yn edrych ar CCTV i weld a allwn nodi'r rheini sy'n gyfrifol. Caiff unrhyw dystiolaeth ei hanfon yn sydd at yr heddlu er mwyn erlyn.

"Nid trosedd hwyl heb ddioddefwyr yw'r math hwn o fandaliaeth, mae wir yn rhoi bywydau pobl mewn perygl. Mae ein tîm diogelwch dŵr yn gosod cymhorthion newydd o fewn 24 awr i glywed eu bod wedi diflannu, ond anogwn y rheini sy'n gyfrifol am yr ymddygiad cwbl ddibwrpas hwn i roi'r gorau iddo.

"Mae Heddlu De Cymru, fel y ni, yn cynyddu ein gwiriadau a'n patrolau er mwyn atal y math hwn o ymddygiad ac i osod cyfarpar newydd yn lle cyfarpar sydd wedi'i ddwyn neu ei ddifrodi."

Dywedodd Andrew Suter, Rheolwr Diogelwch Dŵr Cyngor Abertawe, fod gan y tîm diogelwch dŵr ymagwedd lem at wirio cymhorthion achub bywyd yn y Marina ac ar hyd afon Tawe er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Dywedodd fod y cyngor wedi ymuno â gwasanaethau brys eraill i hyrwyddo ymgyrch 'Parchu'r Dŵr' yr haf, y mae'r wefan ar gael yma: https://rnli.org/safety/respect-the-water

Ychwanegodd, "Gall preswylwyr fod yn llygaid ac yn glustiau i ni felly os ydych chi'n gweld gweithgarwch amheus o amgylch y cymhorthion achub bywyd, yn gweld bod un ohonynt wedi'i ddifrodi neu ar goll yn gyfan gwbl, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib. Peidiwch â'i adael i rywun arall."

Os ydych yn sylwi bod cymorth achub bywyd ar goll, dywedwch wrth yr heddlu neu cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Dŵr drwy ffonio 01792 635162 neu e-bostiwch diogelwch.dŵr@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Awst 2022