Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa His Dark Materials yn cael ei hestyn yn oriel y ddinas

Mae un o sioeau celf mwyaf poblogaidd erioed Abertawe yn cael ei hestyn.

His Dark Materials

Mae'r arddangosfa His Dark Materials sydd i'w gweld yn rhad ac am ddim yn Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe, wedi denu dros 24,000 o ymwelwyr ers iddi gael ei lansio ychydig cyn y Nadolig.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliot King, "Rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael ei hestyn fel y gall mwy o bobl ddod i'w mwynhau tan yr haf."

Bydd yr arddangosfa a oedd i fod i ddod i ben ddiwedd y mis hwn, bellach yn parhau tan 2 Gorffennaf.

Oriau agor y Glynn Vivian: Dydd Mawrth i ddydd Sul 10am - 4.30pm (mynediad olaf am 4.00pm) ac ar agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc ym mis Mai. Rhagor o wybodaeth: www.glynnvivian.co.uk

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ebrill 2023