Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o dai fforddiadwy i'w rhentu yn dod yn fuan

Mae cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu cannoedd yn fwy o gartrefi i'w rhentu yn Abertawe yn helpu teuluoedd y ddinas i ddod o hyd i leoedd fforddiadwy i fyw ynddynt.

Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ychwanegodd Gyngor Abertawe bron 90 o gartrefi i'w stoc o 13,712 o gartrefi fforddiadwy i'w rhentu, ac mae cannoedd yn rhagor yn yr arfaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Mae'r cynllun prynu'n ôl yn un elfen yn unig o benderfyniad y cyngor i helpu i liniaru pwysau cynyddol ar argaeledd tai fforddiadwy i'w rhentu yn Abertawe, a disgwylir y bydd tua 25 arall yn cael eu prynu yn y flwyddyn sy'n dod.

Ar ben hynny, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar addasu dwy hen swyddfa dai ranbarthol ym Mhen-lan ac Eastside yn 10 fflat a dylent fod yn barod i bobl symud i fyw iddynt yn y misoedd sy'n dod.

Mae'r prosiectau'n i gyd yn rhan o raglen Rhagor o Gartrefi 10 mlynedd y cyngor sy'n cynnwys darparu 1,000 o dai ynni-effeithlon, fforddiadwy i'w rhentu - y tai cyngor newydd cyntaf am genhedlaeth.

Mae'r rhaglen Rhagor o Gartrefi yn cael ei hariannu gan gymysgedd o incwm rhent gan denantiaid y cyngor a grantiau Llywodraeth Cymru. Ni ddaw unrhyw arian o dreth y cyngor.

Mae'r cynllun wedi ariannu cartrefi newydd ym Mlaen-y-maes, Gellifedw a'r Clâs ac yn ddiweddar ariannodd y gwaith o drawsnewid hen ganolfan seibiant Gwasanaethau Cymdeithasol Gorseinon yn 2 gartref 3 ystafell wely newydd i breswylwyr lleol, yn ogystal â'r byngalos newydd a gwblhawyd yn ddiweddar yn West Cross.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Awst 2023