Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl ifanc yn dathlu uwchraddio ardaloedd chwarae

Bydd ardaloedd chwarae newydd yn diddanu plant lleol mewn dwy gymdogaeth yn y ddinas, Longridge a Chwm Lefel, dros y misoedd nesaf.

new play area

Ar yr un pryd, mae wyth ardal chwarae arall lle mae offer eisoes wedi'u huwchraddio ar fin gweld hen arwynebau sglodion pren a threuliedig yn cael eu disodli gan ddeunydd modern sy'n addas i blant a'r tywydd, a fydd yn denu ymwelwyr yn ôl am flynyddoedd i ddod.

Mae'r cynlluniau i gyd yn rhan o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae unigryw Abertawe gwerth £7m sydd eisoes wedi gweld mwy na 50 o gymunedau'n elwa dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae fframiau dringo, trampolinau ac unedau aml-chwarae hefyd i'w cael mewn ardaloedd chwarae fel rhan o gynllun parhaus y Cyngor i annog plant i chwarae yn eu cymdogaethau. Yn Longridge bydd hefyd ardal chwaraeon fach ac ardal bicnic i deuluoedd. Bydd Cwm Lefel hefyd yn cynnwys digon o leoedd chwarae a mannau eistedd.

Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi comisiynu contractwyr i osod arwynebau sy'n gwrthsefyll y tywydd ac sy'n addas i blant yn lle sglodion pren a deunyddiau eraill mewn ardaloedd chwarae ym Mharc Ravenhill, Llyn Cychod Parc Singleton, Parc Sgeti, Cwmbwrla, Waunarlwydd, Hollett Road, Parc Williams a  Kingshead Road.

Ers dechrau'r rhaglen ardaloedd chwarae mae cymunedau ar draws Abertawe wedi gweld buddsoddiad mewn ardaloedd sy'n cynnwys Mayhill, West Cross, Garnswllt, Bôn-y-maen, Mawr, Pengelli, Pen-clawdd a Gellifedw.

I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad mwyaf erioed y Cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd