Miliynau i'w gwario ar atgyweirio ffyrdd Abertawe eleni
Bydd mwy o arian nag erioed o'r blaen, sef £8.1m, yn cael ei wario i fynd i'r afael ag atgyweiriadau ar hyd yn oed mwy o ffyrdd ar draws y ddinas.
Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £1m i fynd i'r afael ag atgyweiriadau ar hyd yn oed mwy o ffyrdd ar draws y ddinas. Mae'r cyllid ychwanegol ar ben £600,000 yn rhagor ar gyfer ffyrdd a gyhoeddwyd ym mis Mai.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ym mis Mawrth, cymeradwyom swm sylweddol o'n cyllideb flynyddol tuag at atgyweiriadau priffyrdd ar gyfer 2024/25.
"Mae ffyrdd a glustnodwyd i'w hatgyweirio yn ystod y deuddeng mis nesaf wedi cael eu blaenoriaethu fel rhan o'n rhaglen dreigl asedau priffyrdd bum mlynedd.
"Bydd yr arian ychwanegol rydym bellach wedi'i gymeradwyo yn mynd â'r buddsoddiad i fwy nag £8.1m a byddwn yn sicrhau y gallwn ddelio â ffyrdd sydd wedi'u difrodi gan dywydd gwlyb.
Ychwanegodd, "Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn rhan o'n hymrwymiad i gadw Abertawe i symud. Mae gwelliannau ffyrdd yn helpu preswylwyr i fynd o gwmpas y lle wrth hybu'r economi leol ac adfywiad yn ein dinas ar yr un pryd."