Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sefydlu Pwynt Cymorth Cymunedol ar gyfer preswylwyr Treforys

Bydd preswylwyr yn Nhreforys yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yr wythnos diwethaf yn gallu cael mynediad at ystod o gefnogaeth a gwasanaethau mewn pwynt cymorth cymunedol sy'n cael ei sefydlu yn y llyfrgell leol.

Scene of gas explosion in Morriston

Bydd staff Cyngor Abertawe wrth law i ddarparu rhagor o gefnogaeth dros yr wythnosau nesaf i'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad.

Bydd y pwynt cymorth cymunedol yn Llyfrgell Treforys yn agor 22 Mawrth a bydd cymorth a chyngor ar gael chwe diwrnod yr wythnos. Bydd staff o adrannau amrywiol y cyngor ac amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth arbenigol wrth law i gynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i breswylwyr.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn cydnabod yr effaith y mae'r digwyddiad wedi'i chael ar gymuned Treforys, yn enwedig y preswylwyr hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y ffrwydrad nwy.

"Rydym am sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i helpu gyda'r broses adfer. Dyna pam mae'r cyngor, ynghyd â'r CGGA a phartneriaid eraill wedi bod yn darparu cefnogaeth yn y Neuadd Goffa a chlwb 'The Dingle'.

"Nawr, gall unrhyw breswylwyr lleol sy'n bryderus neu'r rheini y mae'r digwyddiad wedi effeithio arnynt alw heibio'r Pwynt Cymorth Cymunedol yn y llyfrgell am sgwrs ac i drafod yr hyn y gallwn ei wneud i helpu."

Diben y Pwynt Cymorth Cymunedol yw gwrando ar bobl leol, dod o hyd i'r hyn y mae ei angen arnynt a rhoi'r gefnogaeth ar waith i'w helpu. Gall hyn gynnwys cyngor ac arweiniad ar bynciau amrywiol ynghylch ble i ddod o hyd i gymorth ariannol, yn ogystal â chefnogaeth lles ac unrhyw wasanaethau eraill a all helpu unigolion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt.

Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) sy'n cynnal yr apêl codi arian ar gyfer y rheini yr effeithiwyd arnynt, "Cafodd y digwyddiad yn Nhreforys yr wythnos ddiwethaf effaith enfawr ar y gymuned leol.

"Mae wedi bod yn galonogol gweld pobl yn cynnig cefnogaeth a chyfraniadau at yr apêl.

"Bydd taliadau o'r apêl yn dechrau cael eu talu'r wythnos hon i aelwydydd yr effeithiwyd arnynt fwyaf. Caiff taliadau dewisol pellach eu gwneud dros yr wythnosau nesaf.

"Rydym wrth ein boddau bod y pwynt cymorth cymunedol yn cael ei agor fel lle y gall pobl fynd iddo i rannu eu pryderon, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu gydag unrhyw sesiynau y mae eu hangen ar y gymuned."

Meddai'r Cyng. Stewart, "Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau lleol sydd eisoes wedi cynnig eu cefnogaeth er mwyn galluogi pobl Treforys i ddod at ei gilydd a helpu eu cymuned. Unwaith byddwn yn dysgu sut i gefnogi anghenion y gymuned, gallwn ddarparu rhagor o wybodaeth am yr hyn a fydd yn cael ei roi ar waith i gefnogi pobl."

Gall unrhyw un sydd am drafod ei anghenion neu sydd am gynnig unrhyw fath o gymorth i'r gymuned leol fynd i Lyfrgell Treforys rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10am a 4pm ar ddydd Sadwrn yn 13A Pentrepoeth Road, Treforys, Abertawe SA6 6AA.

Os hoffech gyfrannu at apêl ffrwydrad nwy Treforys, gallwch gyfrannu ar-lein yn https://localgiving.org/appeal/morriston-appeal

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith