Lansio 'Cwtch Mawr', Banc Pob Dim cyntaf Cymru, i roi hanfodion dros ben i fwy na 40,000 o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi ar draws y De
Mae menter elusennol newydd yn cael ei lansio yng Nghymru heddiw er mwyn rhoi mwy na 300,000 o nwyddau hanfodol dros ben eleni i 40,000 o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi.
Mae Banc Pob Dim cyntaf Cymru yn cael ei arwain gan Faith in Families, elusen yn Abertawe, gyda chymorth gan Amazon, cyn Brif Weinidog y DU Gordon Brown, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Cwtch Mawr yw Banc Pob Dim cyntaf Cymru. Mae'n ganolfan rhoddion gymunedol, gan gynnig cymorth i deuluoedd sy'n wynebu tlodi ar draws Abertawe.
Mae'n darparu hanfodion dros ben fel dillad cynnes, cynnyrch hylendid, dillad ysgol a dillad gwely, wedi'u rhoi gan fusnesau fel Amazon yn uniongyrchol i bobl mewn angen.
Faith in Families, y prif bartner elusennol, sy'n dosbarthu'r eitemau i grwpiau elusennol a gweithwyr gofal proffesiynol, sydd wedyn yn eu rhoi'n uniongyrchol i bobl y mae eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
Bydd Cwtch Mawr yn delio â rhoddion mewn warws pwrpasol, 6,000 troedfedd sgwâr, yn Llansamlet, Abertawe.
Roedd Amazon wedi helpu i sefydlu'r gweithrediadau yn y warws, gan ddarparu arbenigedd logistaidd, cymorth technegol, a bydd pum aelod tîm o'i ganolfan gyflawni gyfagos yn Abertawe yn gweithio ar y safle yn ystod y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu.
Mae amrywiaeth o sefydliadau wedi darparu cyllid i dalu am rent a chyfleustodau, ac i helpu i recriwtio, talu a hyfforddi staff ychwanegol, gan gynnwys Cyngor Abertawe, Cymdeithas Dai Pobl, a Sefydliad Moondance.
Dywedodd Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y DU: "Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod gormod o lawer o deuluoedd yn ei chael hi'n wirioneddol anodd cael dau ben llinyn ynghyd o ddydd i ddydd oherwydd, yn syml, mae'r arian yn diflannu cyn diwedd pob mis. Rydyn ni wedi dylunio'r fenter Banc Pob Dim i dderbyn nwyddau sy'n cael eu dychwelyd, sydd dros ben neu y mae gormod ohonynt gan gwmnïau yn y DU. Drwy bartneriaid elusennol lleol, fel Faith in Families, gallwn roi eitemau fel cewynnau, dillad ysgol, cadachau a dillad gwely yn syth yn nwylo gweithwyr cymdeithasol, athrawon ac ymarferwyr iechyd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Mae'r partneriaid busnes sydd wedi ymuno â'n Cynghrair Trugaredd yn gallu mynd ati'n uniongyrchol i fodloni'r angen enbyd am ddillad cynnes, cynnyrch hylendid ac eitemau hanfodol y cartref i roi cymorth i'r bobl y mae ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt."
Dywedodd John Boumphrey, Rheolwr Gwlad y DU, Amazon: "Rydyn ni'n falch iawn o ddod â'r gynghrair hon o bartneriaid at ei gilydd i lansio Cwtch Mawr, Banc Pob Dim cyntaf Cymru. Mae'r Banciau sy'n bodoli eisoes yn cael effaith enfawr ar draws yr Alban a Manceinion Fwyaf, gan helpu teuluoedd sy'n wynebu tlodi yn ogystal â chyfrannu at economi fwy cylchol drwy wneud defnydd da o gynnyrch dros ben. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r cyd-weithwyr lu o bob rhan o Amazon sydd wedi cyfrannu eu harbenigedd logistaidd, eu brwdfrydedd dros arloesi, a'u hymrwymiad i helpu ein cymunedau lleol at y prosiect hwn ac a fydd yn ein galluogi i roi cymorth i ddegau o filoedd o deuluoedd ar draws de Cymru eleni, a thu hwnt."
Ychwanegodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Rwy'n falch iawn bod Cyngor Abertawe yn un o'r partneriaid a helpodd i sefydlu Cwtch Mawr a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o agor y Banc Pob Dim i'n dinas, er mwyn rhoi cymorth i'r nifer fawr o deuluoedd ac unigolion sy'n ei chael hi'n anodd yn sgil yr argyfwng costau byw. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i filoedd o bobl dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac yn golygu bod cymorth hanfodol ar gael pan fydd yr angen ar ei fwyaf."
Yn ôl Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: "Mae'r Banc Pob Dim yn fodel ardderchog. Mae busnesau lleol yn rhoi nwyddau sydd wedyn yn cael eu rhoi am ddim i bobl mewn angen, gan eu helpu i arbed arian. Bydd Cwtch Mawr yn helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn wyneb yr argyfwng costau byw i gael gafael ar nwyddau a chymorth hanfodol yn hawdd, mewn un lle. Dyma esiampl wych o weithio mewn partneriaeth, lle mae'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol wedi dod ynghyd. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r prosiect hwn ac yn gobeithio ei weld yn tyfu dros y pum mlynedd nesaf."
Dywedodd Cherrie Bija, Prif Weithredwr Faith in Families: "Mae bywyd pawb yn gwella pan fydd pobl yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd. Mae Cwtch Mawr yn gydweithrediad rhwng gwahanol sectorau sy'n dymuno rhoi gobaith a chymorth i bobl sy'n wynebu rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf heriol yma yn ein cymunedau ni. Fe all y cwtch Cymreig hwn drawsnewid Abertawe a'r De. Rhoi esgidiau pêl-droed newydd i blant er mwyn iddyn nhw allu chwarae i'w tîm ysgol, neu becynnau mamolaeth i famau newydd er mwyn iddyn nhw gael urddas wrth fynd i'r ysbyty - mae'r pethau hyn yn wirioneddol bwysig. Prin y mae pobl yn ymdopi ar hyn o bryd. Mae anghysur a newyn yn dod yn bethau normal i blant, mae unigolion yn wynebu sefyllfaoedd diobaith. Bydd Cwtch Mawr yn gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl ac i'r blaned. Mae'n ateb gwrth-dlodi a gwrth-lygredd go iawn."
Mae'r prosiect eisoes wedi helpu mwy na 7,000 o deuluoedd yn Abertawe. Ers i roddion ddechrau cyrraedd diwedd 2023, mae mwy na 40,000 o nwyddau wedi cael eu rhoi. Mae sefydliadau cymorth cymunedol, ysgolion a cholegau, llochesi digartrefedd a gwasanaethau cymorth i'r henoed yn yr ardal i gyd wedi cael nwyddau hanfodol gan Cwtch Mawr, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Abertawe, Llamau, Cymorth Ceiswyr Lloches Abertawe, a Teuluoedd Ifanc Abertawe.
Cwtch Mawr yw trydydd Banc Pob Dim y DU. Cafodd y fenter, sy'n cael ei galw'n 'Multibank' yn Saesneg, ei sefydlu ar y cyd gan Gordon Brown ac Amazon. Cafodd y Banc Pob Dim cyntaf ei lansio yn Fife, yr Alban, yn 2022 a'r ail yn Wigan, Manceinion Fwyaf, yn 2023. Bellach mae'r fenter wedi rhoi mwy na 2 filiwn o eitemau hanfodol dros ben i fwy na 200,000 o deuluoedd mewn angen. Erbyn diwedd 2024, nod y prosiect yw rhoi cymorth i fwy na hanner miliwn o deuluoedd drwy chwe safle Banc Pob Dim ledled y DU.