Siop Gwybodaeth dan yr Unto yn dod i'r amgueddfa
Y mis hwn bydd y Siop Gwybodaeth dan yr Unto fwyaf erioed yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 11am a 2pm ddydd Llun 22 Ionawr.


Bydd gan fwy na 60 o grwpiau, elusennau a gwasanaethau stondinau ymgysylltu, a'r mis hwn bydd siaradwyr gwadd a sesiynau rhyngweithiol hefyd.
Bydd cyngor a chymorth ar gael ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys iechyd, lles, cyflogaeth, tlodi a thai.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a nifer o sefydliadau eraill i hyrwyddo gweithgareddau a gwasanaethau maent yn eu cynnal ar gyfer amrywiaeth eang o gymunedau.
Mae croeso i bobl ddod unrhyw bryd rhwng 11am a 2pm felly does dim angen apwyntiad.