Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynediad at Eiriolaeth

Mae'r awdurdod lleol yn cael ei harwain gan y gyfraith mewn berthynas â phryd mae angen eiriolaeth.

Mae'r tabl isod yn nodi'r mathau o eiriolaeth y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am eu sicrhau ac mae'n dangos y meini prawf ar gyfer mynediad at y gefnogaeth eiriolaeth honno.

GyfraithMath o EiriolaethPwy all ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?Pwy sy'n darparu'r gwasanaeth hwn i'r awdurdod lleol ar hyn o bryd?

Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014

Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol

Ar gyfer unrhyw oedolyn (18+) gan gynnwys gofalwyr sy'n gymwys ar gyfer asesiad a/neu gymorth Gwasanaethau Cymdeithasol:

  • Cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth
  • Asesu, cynllunio gofal a chefnogaeth
  • Diogelu
  • Penderfyniadau ynghylch ble i fyw
  • Newidiadau i drefniadau gwybodaeth, gofal a chefnogaeth
  • Trefniant cam i lawr o gymorth ffurfiol i drefniadau ataliol anffurfiol

AC sy'n profi rhwystr mewn unrhyw un neu bob un o'r meysydd canlynol 

  • Deall gwybodaeth berthnasol
  • Cadw gwybodaeth
  • Defnyddio neu bwyso a mesur gwybodaeth fel rhan o'r broses o gymryd rhan
  • Cyfleu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau

Ar gyfer plant a phobl ifanc (0-25 oed), bydd Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn darparu'r gwasanaethau canlynol ar draws Abertawe/Castell-nedd Port Talbot:

Cynnig Rhagweithiol o Eiriolaeth Plant a phobl ifanc 5 oed ac yn hŷn sy'n

  1. Blentyn neu'n berson ifanc sy'n mynd i mewn i'r system ofal yn Abertawe/Castell-nedd Port Talbot
  2. Plentyn neu'n berson ifanc sy'n mynd i'r arena amddiffyn plant yn Abertawe, Castell-nedd/Port Talbot (cynhadledd gychwynnol i'w chynnal)

Eiriolaeth sy'n seiliedig ar faterion

1. Plant a phobl ifanc 0-25 oed sy'n ymwneud â Gwasanaethau Plant Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Sylwer: mae angen ymdrin â phlant ifanc iawn 0-5 oed fesul achos.

2. Mae'r gwasanaeth ar gael i blant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n cael mynediad at addysg neu hyfforddiant neu'n ceisio cael mynediad atynt, ac:

  • sy'n gwneud, yn bwriadu gwneud, neu'n ystyried gwneud, apêl i'r Tribiwnlys Addysg; neu
  • sy'n cymryd rhan, neu'n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer datrys anghytundebau 

Sylwer: mae angen ymdrin â phlant ifanc iawn 0-5 oed fesul achos.

Gwasanaethau Oedolion

Mental Health Matter (Cymru)

Croeso i IPA Abertawe - rhan o MHM Cymru - (swansea-ipa.cymru)

Gwasanaethau Plant of Phobl Ifanc

NYAS Cymru

Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol | NYAS

Mental Health Act 1983

Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol neu'r 'berthynas agosaf'

Pobl a gedwir dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, neu ar Orchymyn Triniaeth Gymunedol, neu o dan Warcheidiaeth.

Mae cefnogaeth eiriolaeth yn cynnwys:

  • Cael mynediad at wybodaeth
  • Arfer hawliau
  • Gwneud cwynion
  • Cael mynediad at gofnodion

Cymorth Eiriolaeth Cymru

Cleient IMHA M - AS Cymru

Mental Capacity Act 2005

Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol

Pobl 16+ oed nad oes ganddynt y galluedd i wneud penderfyniadau, A'R amodau canlynol:

  • Lle mae corff y GIG yn cynnig darparu, atal neu roi'r gorau i driniaeth feddygol ddifrifol, neu ...
  • Mae corff y GIG yn cynnig trefnu arhosiad yn yr ysbyty sy'n para mwy na 28 niwrnod, neu...
  • Mae corff y GIG neu awdurdod lleol yn cynnig trefnu llety (neu newid llety) mewn cartref gofal am gyfnod o fwy nag wyth wythnos.

Cymorth Eiriolaeth Cymru

EGMA (ascymru.org) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Mental Capacity Act 2005

Cynrychiolydd Person Perthnasol â ThâlLle mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid wedi'u hawdurdodi ac nid oes unrhyw un arall i fod yn gynrychiolydd i'r person.

Mental Health Matters (Cymru)

Paid Relevant Persons Representative (PRPR) | mhmwales.org.uk

Mental Capacity Act 2005Cyfaill cyfreithaLle mae anghydfod yn y llys ac nid oes unrhyw un arall ar gael i gefnogi'r person i gynrychioli ei fuddiannau.

Mental Health Matters (Cymru)

Litigation Friend | mhmwales.org.uk

Mental Capacity Act 2005Cynrychiolydd Rheol 1.2Cynrychiolydd dros benderfyniadau'r Llys Gwarchod mewn gorchymyn cymunedol (Gorchymyn Amddifadu o Ryddid) lle nad oes aelod o'r teulu i wneud hyn.

Mental Health Matters (Cymru)

Croeso i Mental Health Matters Wales (MHM Cymru)

Health and Social Care (quality and engagement) (Wales) Act 2020

Eiriolaeth CwynionCefnogaeth i unigolion sydd wedi gwneud cwyn i wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Corff Llais y ddinesydd (Llais)

Llais Cymru | LLais

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mehefin 2024